Caer 0–0 Wrecsam

Di sgôr oedd hi yn y gêm ddarbi rhwng Caer a Wrecsam yn Stadiwm Deva brynhawn Sadwrn.

Cafwyd torf o dros bedair mil ar gyfer y gêm yn Uwch Gynghrair Skrill ond chafodd y cefnogwyr fawr ddim cyffro i’w fwynhau trwy gydol y naw deg munud.

Yr ymwelwyr o Gymru a gafodd y gorau o’r cyfleoedd yn y stadiwm ar y ffin ond cafodd cynigion Dean Keates a Neil Ashton eu harbed.

Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn bymthegfed yn nhabl y Gyngres ac yn rhoi hwb i obeithion Caer o aros yn y Skrill am dymor arall.

.

Caer

Tîm: Chapman, Turner (Menagh 87′), McIntyre, Griffin, Linwood, Horan (Ashworth 63′), Jarrett, Rooney, Carlton, Seddon, Bond (Mahon 71′)

Cardiau Melyn: Turner 39’, Griffin 48’, Carlton 78’

.

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Carrington, Ashton, Clarke, Artell, Livesey, Bailey-Jones, Keates, Anyinsah (Reid 63′), Bishop, Hunt

Cardiau Melyn: Anyinsah 10’, Reid 76’

.

Torf: 4,326