Yr wythnos hon hedfanodd Chico Flores adref i Sbaen i gael torri’r mwng o wallt du sy’ wedi nodweddu ei gyfnod yng nghalon amddiffyn Abertawe.

Ond er yr hercan, mae’n gobeithio osgoi tynged Samson-aidd wrth i’w dîm herio Hull oddi cartref yfory.

Tra mae’r Elyrch yn hedfan wedi buddugoliaeth swmpus 3-0 yn erbyn Norwich yn eu gêm ddiwetha’, a chyn hynny wedi sicrhau pwynt gwerthfawr oddi cartref yn erbyn Arsenal, mae Hull wedi colli eu dwy gêm olaf yn erbyn West Ham a Stoke.

Mae Chico’n addo bod yn gynt nag arfer ar gyfer ei ymweliad â Stadiwm KC Hull.

“Mae o leia’ dau gilogram wedi ei dorri oddi ar fy ngwallt, felly fe fydda i’n gyflymach rŵan!” meddai wrth dynnu coes mewn cynhadledd i’r wasg.

Mae Hull ag Abertawe ill dau ar 33 o bwyntiau o 32 o gemau hyd yma yn Uwch Gynghrair Lloegr, a chyfartal 1-1 oedd hi pan wnaeth y ddau dîm gwrdd yn y Liberty fis Rhagfyr.