Sam Vokes
Mae Burnley wedi cadarnhau fod Sam Vokes wedi anafu cymalau yn ei ben-glin – anaf all olygu misoedd allan i ymosodwr Cymru.

Mewn datganiad neithiwr fe ddywedodd ei glwb fod Vokes wedi rhwygo cymal yn ei ben-glin chwith – yr anterior cruciate ligament – ym munudau cyntaf eu gêm yn erbyn Caerlŷr ar y penwythnos.

Dyw’r clwb heb awgrymu eto am ba mor hir maen nhw’n disgwyl i Vokes fod allan, ond mae’r anaf yn un sydd fel arfer yn cymryd rhwng chwech a naw mis i wella.

Mae’n golygu ei bod hi’n debygol y bydd Vokes yn methu dechrau ymgyrch Ewro 2016 Cymru yn yr hydref, gyda’r gêm gyntaf yn erbyn Andorra ar 9 Medi, ychydig dros bum mis i ffwrdd.

Mae Cymru hefyd yn wynebu Bosnia-Herzegovina a Chyprus ym mis Hydref, a Gwlad Belg ym mis Tachwedd eleni.

Roedd disgwyl y byddai Vokes yn dechrau yn y crys rhif naw i Gymru yn yr ymgyrch nesaf, ond fe fydd yr anaf yn ergyd mawr i’w obeithion o wneud hynny.

Y goliau’n llifo

Daw’r anaf yn ergyd fawr i Burnley hefyd, gyda Vokes yn cael ei dymor mwyaf ffrwythlon erioed o flaen y gôl eleni ar ôl sgorio 21 o weithiau yn barod.

Mae’r goliau wedi helpu Burnley i’r ail safle yn y Bencampwriaeth, wrth iddyn nhw geisio sicrhau dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Ond gyda Vokes nawr allan am weddill y tymor, a’r ymosodwr arall Danny Ings hefyd wedi anafu, fe fydd hynny’n ergyd fawr i obeithion y Clarets.

A chyda Vokes ddim yn debygol o ddychwelyd tan rai misoedd i mewn i’r tymor nesaf, mae’n bosib iawn y bydd ymosodwyr newydd wedi ymuno â’r clwb erbyn hynny i gystadlu am ei le.

“Mae Sam wedi cael tymor gwych ac rwy’n siŵr y gwnewch chi ymuno â ni i’w gefnogi wrth iddo wella,” meddai rheolwr Burnley Sean Dyche ar wefan y clwb.