Jonathan Williams
Mae Ipswich wedi cyhoeddi eu bod wedi ymestyn cyfnod Jonathan Williams ar fenthyg yno nes diwedd y tymor.

Daeth cyfnod Williams ar fenthyg am fis gyda’r Tractor Boys i ben yn dilyn gêm Ipswich yn erbyn Nottingham Forest ar y penwythnos.

Ond mae ei riant-glwb Crystal Palace wedi cytuno i ymestyn y cyfnod hwnnw nes diwedd y tymor – ar yr amod y gallen nhw ei alw nôl â 24 awr o rybudd.

Yn ystod ei gyfnod byr yn Portman Road mae Williams wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan ddod yn ffefryn ymysg y cefnogwyr, cipio seren y gêm nifer o weithiau, a sgorio gôl wych yr wythnos diwethaf wrth i Ipswich guro Derby.

Mae Ipswich ar hyn o bryd yn ceisio cyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth, ac fe fyddai modd iddynt ymestyn y cyfnod ar fenthyg unwaith eto petai angen er mwyn sicrhau bod Williams ar gael ar gyfer y gemau hynny.

Mae Crystal Palace wrthi’n brwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair, ond ar ôl llwyddo i drechu Chelsea dros y penwythnos mae’n ymddangos nad yw eu rheolwr, y Cymro Tony Pulis, yn teimlo bod angen Williams arno ar hyn o bryd.