Y Bala 3–1 Port Talbot

Roedd hi’n fuddugoliaeth fwy cyfforddus na’r hyn y mae’r sgôr yn ei awgrymu i’r Bala yn erbyn Port Talbot ar Faes Tegid brynhawn Sadwrn.

Dechreuodd y ddau dîm y gêm yn targedu’r seithfed safle holl bwysig yn Uwch Gynghrair Cymru ond mae Port Talbot fwy neu lai allan o’r ras honno bellach wedi i goliau Ian Sheridan, Kenny Lunt a Mark Connolly sicrhau buddugoliaeth haeddianol i’r Bala o flaen camerâu Sgorio.

Rhoddodd Ian Sheridan y tîm cartref ar y blaen o’r smotyn wedi llai na deg munud ar ôl i Gethin Jones lorio seren y gêm, Kenny Lunt, yn y cwrt cosbi.

Cafodd Sheridan gyfle gwych i ychwanegu ail o ddeuddeg llath yn hwyrach yn yr hanner wedi i Steven Hall ei lorio ef yn y bocs, ond gwnaeth Hall yn iawn am ei gam trwy arbed y gic o’r smotyn.

Yna, daeth gôl yn erbyn llif y chwarae yn y pen arall pan greodd rhediad da Aide Harris ar y chwith gôl ar blât i Rhys Griffiths

Doedd dim dwywaith serch hynny mai’r Bala oedd tîm gorau’r hanner cyntaf ac roeddynt yn llawn haeddu mynd yn ôl ar y blaen wyth munud cyn yr egwyl diolch i gôl wych Lunt. Curodd y chwaraewr canol cae ddau ddyn cyn anelu ergyd gywir i gornel isaf y rhwyd o ochr y cwrt cosbi.

Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel wedyn wedi dim ond pedwar munud o’r ail hanner wedi i gic rydd Mark Connolly wyro oddi ar ben Lee Surman i gefn y rhwyd.

Tynnodd y tîm cartref eu traed odd ar y sbardun wedi hynny ond bu bron i rediad gwych Lunt droi’n bedwaredd gôl ar yr awr ond ceisiodd basio yn hytrach nag ergydio ar yr eiliad dyngedfenol.

Ar wahân i berfformiad gwych Lunt, cardiau melyn oedd prif thema’r gêm. Dangosodd Nick Pratt saith i gyd, dau ohonynt i Aide Harris wrth i Bort Talbot orffen y gêm gyda deg dyn.

Ymateb

Rheolwr Y Bala, Colin Caton:

“Roedden ni’n wych heddiw, yn enwedig wedi i ni chwarae gyda naw dyn nos Fawrth [yn erbyn Aberystwyth]. Allwn i ddim gofyn dim mwy gan yr hogia’, roedd y perfformiad yn rhagorol.”

“Mae gennym ni grŵp da o chwaraewyr ac fe wnaethon nhw chwarae pêl droed da ar gae anodd heddiw.”

Mae canlyniad yn cadw’r Bala yn wythfed a Phort Talbot yn nawfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair ond mae pum pwynt bellach yn eu gwahanu gyda dim ond pum gêm i fynd.

.

Y Bala

Tîm: Morris, Collins, S. Jones, Brown, Valentine (Mason 61’), Morley, M. Jones, Connolly, Lunt, Sheridan (Edwards 53’), Smith, R. Jones 82’)

Goliau: Sheridan [c.o.s.] 9’, Lunt 37’, Connolly 49’

Cerdyn Melyn: Morley 52’

.

Port Talbot

Tîm: Hall, Walters, Harris, Surman, Green, Bauza (Brooks 49’), Evans, Jones, Griffiths (Bertorelli 32’), John (Williams 83’), Rose

Gôl: Griffiths 32’

Cardiau Melyn: Surman 17’, Hall 25’, Harris 29’, 73’, Evans 47’, John 64’

Cerdyn Coch: Harris 73’

.

Torf: 152