Woking 1–2 Wrecsam
Gŵr o’r enw Joe Jones sgoriodd y gôl fuddugol wrth i Wrecsam golli yn erbyn Woking yn Stadiwm Kingfield brynhawn Sadwrn.
Roedd hwn yn ganlyniad siomedig i Wrecsam yn erbyn tîm a ddechreuodd y dydd oddi tanynt yn nhabl Uwch Gynghrair Skrill, ac i roi halen ar y briw, dyn ag enw tebyg iawn i un o gyn arwyr y Dreigiau rwydodd y gôl fuddugol mewn buddugoliaeth o ddwy gôl i un.
Aeth Woking ar y blaen wedi ugain munud pan ddaeth Jack Marriott o hyd i Scott Randell yn y cwrt cosbi i roi gôl ar blât iddo yntau.
Dau funud yn unig a barodd y fantais cyn i Johnny Hunt sgorio yn dilyn cic rydd Dean Keates, ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.
Ond cipiodd y tîm cartref y pwyntiau i gyd pan sgoriodd Jones doc cyn yr awr yn dilyn camgymeriad gan gôl-geidwad y Dreigiau, Andy Coughlin.
Mae’r canlyniad yn golygu Woking yn codi dros Wrecsam yn nhabl y Gyngres, gyda’r Cymry bellach yn yr ail safle ar bymtheg.
.
Woking
Tîm: Howe (Beasant 43′), Newton, McNerney, Nutter, Jones (Johnson 81′), Betsy, Goddard, Ricketts, Murtagh, Marriott (Sole 75′), Rendell
Goliau: Randell 20’, Jones 57’
Cerdyn Melyn: Goddard 80’
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Ashton, Livesey, Wright, Keates, Hunt, Carrington, Clarke, Harris, Reid (Anyinsah 66′), Bishop (Ormerod 79′)
Gôl: Hunt 22’
Cerdyn Melyn: Wright 90’
.
Torf: 2,117