Casnewydd 1–2 Portsmouth
Gorffennodd Casnewydd y gêm gyda naw dyn wrth golli yn erbyn Portsmouth ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Anfonwyd Adam Chapman oddi ar y cae yn yr hanner cyntaf ac roedd yr ymwelwyr ar y blaen o ddwy i ddim erbyn yr egwyl. Fe wnaeth Ismail Yakubu dynnu un yn ôl wedi hynny ond gorffennodd y gêm gyda cherdyn coch arall i’r Cymry, wrth i Darcy Blake dderbyn ail gerdyn melyn.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan sgoriodd Ryan Taylor o’r smotyn ar ôl cael ei lorio gan Kevin Feely yn y cwrt cosbi.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gasnewydd bum munud yn ddiweddarach pan yr anfonwyd Chapman oddi ar y cae am dacl wael.
Manteisiodd Pompey ar hynny i sgorio ail cyn yr egwyl pan beniodd Jed Wallace groesiad Ricky Holmes i gefn y rhwyd.
Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r deg dyn yn yr ail hanner pan dynnodd Yakubu un gôl yn ôl i’r Cymry, ond diflannodd y gobaith hwnnw pan anfonwyd Blake oddi ar y cae hefyd saith munud o’r diwedd.
Mae’r canlyniad yn un costus i dîm Justin Edinburgh, wrth iddynt lithro tri lle i’r pymthegfed safle yn nhabl yr Ail Adran.
.
Casnewydd
Tîm: McLoughlin, Naylor (Sandell 86′), Hughes, Minshull, Feely (Yakubu 55′), Blake, Chapman, Willmott, Crow (Jeffers 57′), Zebroski, Flynn
Gôl: Yakubu 74’
Cardiau Melyn: Zebroski 41’, Blake 45’
Cardiau Coch: Chapman 27’, Blake 83’
.
Portsmouth
Tîm: Carson, N’Gala, Whatmough (Bradley 63′), Ertl (Agyemang 80′), Alfei, Shorey, Holmes, Fogden, Taylor (Jervis 53′), Wallace, Hollands
Goliau: Taylor [c.o.s.] 22’, Wallace 40’
Cardiau Melyn: Taylor 27’, Hollands 75’, Fogden 90’
.
Torf: 4,261