Abertawe 3–0 Norwich
Rhoddwyd hwb mawr i obeithion Abertawe o aros yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn wrth iddynt ennill yn gyfforddus yn erbyn Norwich ar y Liberty.
Roedd yr Elyrch ddwy gôl ar y blaen ar yr egwyl diolch i goliau Jonathan De Guzman cyn i Wayne Routledge sicrhau’r tri phwynt gyda’r drydedd gôl yn yr ail gyfnod.
Aeth Abertawe ar y blaen wedi hanner awr o chwarae diolch i gôl gyntaf de Guzman. Disgynnodd y bêl i’r gŵr o’r Iseldiroedd ar ochr y cwrt cosbi ac anelodd yntau hi’n syth i gefn y rhwyd.
Sgoriodd y chwaraewr ei ail ef ac ail ei dîm yn fuan wedyn wrth i’r tîm cartref lwyr reoli’r hanner cyntaf. Cyfunodd de Guzman yn dda gyda Wilfred Bony cyn codi’r bêl dros John Ruddy yn y gôl.
Roedd Norwich yn well wedi’r egwyl a bu rhaid i Michel Vorm wneud ambell arbediad i gynnal mantais ei dîm. Fe gliriodd Ashley Williams gynnig Robert Snodgrass oddi ar y llinell hefyd.
Roedd y tri phwynt yn ddiogel serch hynny chwarter awr o’r diwedd wedi i bas dreiddgar Jonjo Shelvey greu’r drydedd gôl i Routledge.
Mae’r canlyniad yn codi Abertawe i’r trydydd safle ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair, saith pwynt uwch ben y tri isaf.
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Rangel, Davies, Shelvey, Chico, Williams, De Guzmán (Dyer 77′), Britton, Bony (Alvaro 88′), Michu (Hernández 73′), Routledge
Goliau: De Guzman 30’, 38’, Routledge 75′
Cerdyn Melyn: Rangel 62’
.
Norwich
Tîm: Ruddy, Martin, Olsson, Howson (Johnson 45′), R Bennett, Bassong, Snodgrass, Tettey, van Wolfswinkel (Hooper 73′), Elmander, Hoolahan (Gutiérrez 45′)
Cardiau Melyn: Johnson 57’, Tettey 59’
.
Torf: 20,371