West Brom 3–3 Caerdydd

Cafodd Caerdydd gêm gyfartal yn erbyn West Brom yn yr Uwch Gynghrair yn dilyn drama hwyr ar yr Hawthorns brynhawn Sadwrn.

Roedd yr Adar Gleision ddwy gôl ar ei hôl hi wedi llai na deg munud ond roeddynt wedi llwyddo i ddod yn gyfartal erbyn diwedd y naw deg munud. Yna, yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm fe aeth West Brom yn ôl ar y blaen eto cyn i Mats Daehli unioni yn yr eiliadau olaf i gipio pwynt cofiadwy i’r Cymry.

Roedd llai na dau funud ar y cloc pan gododd Morgan Amalfitano’r bêl yn gelfydd dros David Marshall i roi’r ymwelwyr ar y blaen.

Aeth pethau o ddrwg i waeth saith munud yn ddiweddarach pan gyfunodd Amalfitano a Matej Vydra yn dda i greu ail i Graham Dorrans.

Gwnaeth Ole Gunnar Solskjær ambell newid tactegol wedi hynny a rodd ei dîm yn ôl yn y gêm chwarter awr cyn yr egwyl wedi i Jordan Mutch godi’r bêl dros Ben Foster ac i gefn y rhwyd.

Roedd Caerdydd yn well tîm yn yr ail hanner ac roeddynt yn llawn haeddu unioni’r sgôr ddeunaw munud o’r diwedd pan beniodd Steven Caulker gic rydd Gary Medel i’r gôl.

Yna daeth y ddrama hwyr wrth i Thievy Bifouma roi West Brom yn ôl ar y blaen o groesiad Saido Berahino cyn i ergyd hwyr hwyr Mats Daehli wyro i gefn y rhwyd i achub pwynt i’r Adar Gleision,

Mae’r pwynt hwnnw yn eu codi un lle i’r deunawfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair ond dim ond chwe gêm sydd ar ôl bellach iddynt geisio dianc o safleoedd y gwymp.

.

West Brom

Tîm: Foster, Reid, Ridgewell, Morrison, McAuley, Dawson, Amalfitano (Berahino 72′), Mulumbu, Vydra (Bifouma Koulossa 78′), Sessegnon, Dorrans (Gera 85′)

Goliau: Amalfitano 2’, Dorrans 9’, Bifouma Kolossa 90’

Cerdyn Melyn: Dorrans 64’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Fabio (Zaha 36′), Taylor, Turner, Caulker, Théophile-Catherine, Mutch, Medel, Campbell, Bellamy, Gunnarsson (Daehli 45′)

Goliau: Much 30’, Caulker 73’, Daehli 90’

Cerdyn Melyn: Bellamy 78’

.

Torf: 25,661