Garry Monk
Collodd Abertawe gyfle i gael buddugoliaeth yn erbyn Arsenal yn Stadiwm Emirates, wrth i’r dyfarnwr chwythu’r chwiban olaf yn ystod ymosodiad gan yr Elyrch.
Wrth i Jonathan de Guzman ei heglu hi i lawr i cae tua’r gôl, penderfynodd Lee Probert fod yr amser am anafiadau ar ben gyda’r sgôr yn 2-2.
‘Penderfyniad gwael’
Mynegodd prif hyfforddwr Abertawe, Garry Monk ei ddicter bod y dyfarnwr wedi penderfynu chwythu’r chwiban hanner munud yn gynnar.
“Roedden ni drwodd tua’r gôl,” meddai, “ac yn 99% yn sicr fod cyfle i sgorio gôl yn dod.
“Fe fyddai [de Guzman] wedi bod drwodd o flaen y gôl ac mae’n chwythu 30 eiliad yn gynnar.
“Fe ddywedais i wrth y dyfarnwr fod y penderfyniad yn un gwael iawn. Dwi ddim yn ei ddeall, ac mae’n rhyfedd iawn.
“Dwi erioed wedi’i gael fel yna mewn unrhyw gêm arall rwy wedi chwarae ynddi erioed.”
Ond mynegodd Monk ei falchder bod ei dîm, sy’n brwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair, wedi llwyddo i sicrhau un pwynt.
Yn y cyfamser, mae rheolwr Arsene Wenger wedi dweud bod rhaid i’w dîm symud ymlaen o’r gêm neithiwr.
Ildiodd Matthieu Flamini gôl i’w rwyd ei hun yn y funud olaf tra bod ei dîm 2-1 ar y blaen.
Daw’r canlyniad neithiwr wedi crasfa i Arsenal o 6-0 yn erbyn Chelsea yn Stamford Bridge dros y penwythnos.
Wilfried Bony
Aeth yr Elyrch ar y blaen ar ôl 11 munud wrth i Wilfried Bony benio’r bêl i gefn y rhwyd.
Ond tarodd Arsenal yn ôl yn yr ail hanner, wrth i’r eilydd Lukas Podolski, ac Oliver Giroud sgorio dwy gôl o fewn munud i’w gilydd.
Daeth ail gôl Abertawe o groesiad i’r cwrt cosbi gan Leon Britton, wrth i Per Mertesacker daro’r bêl yn erbyn y golwr Wojciech Szczesny a Matthieu Flamini ac i mewn i’r rhwyd.
Mae disgwyl i chwaraewr canol-cae Cymru, Aaron Ramsey fod yn holliach ymhen pythefnos.
Dydy Ramsey ddim wedi chwarae ers Dydd San Steffan.
Ymateb y chwaraewyr
Dywedodd capten Abertawe, Ashley Williams fod yr ymosodwr Wilfried Bony yn haeddu cryn ganmoliaeth am ei berfformiad.
“Rydyn ni’n dwlu arno yn y tîm hwn.
“Mae’n gymeriad mawr yn y grŵp ac mae e wedi sgorio goliau hanfodol.
“Roedd y gôl yn Arsenal yn wych, fe aeth drwy lawer o chwaraewyr cyn ei symud hi allan i Tayls [Neil Taylor], ac fe groesodd yn wych i Bony.
“Mae Wilf wedi gwneud mor dda i ennill y bêl yn y lle cyntaf ac yna’i rhwydo hi yn y gornel.
“Bob tro ry’n ni’n croesi i Wilf, ry’n ni’n disgwyl iddo sgorio gan ei fod e gystal yn yr awyr.”
Wrth drafod y gôl a sgoriodd Arsenal i’w rhwyd eu hunain, dywedodd Leon Britton na fyddai’n hawlio’r gôl.
“Es i drwodd, roedd yna wyriad a’r peth nesa ro’n i’n gwybod, ro’n i’n bwyta’r gwair a’r bêl yng nghefn y rhwyd.
“Ar y cyfan, ro’n i’n teimlo ein bod ni wedi gwneud yn dda yn yr hanner cyntaf, fe gawson ni’r gôl ac fe wnaethon ni amddiffyn yn dda.
“Roedd hi’n rhwystredig i ildio’r gôl i’w gwneud hi’n gyfartal ac eiliadau wedyn, i ddarganfod ein bod ni 2-1 ar ei hôl hi.
“Mae hi’n anodd yn erbyn tîm fel Arsenal, ond fe ddangoson ni gryn gymeriad i gadw i fynd.”
Ymateb y capten
Yn ôl y capten, Ashley Williams, roedd y canlyniad wedi plesio’r Elyrch.
“Mae cael pwynt yn erbyn tîm sy’n herio am y gynghrair yn ein plesio,” meddai.
“Mae elfen o siom gan ein bod ni ar y blaen cyhyd, ond ar y cyfan mae’n bwynt da.
“Wrth i chi gerdded ar y cae, rydych chi’n ystyried a oedd y pwynt wedi’i ennill neu’r ddau bwynt wedi’u colli, ond pan fyddwn ni’n edrych nôl, mae’n bwynt sy’n mynd â ni at garreg filltir y 30.”