Casnewydd 0–0 Bury
Gêm gyfartal ddi sgôr a gafodd Casnewydd nos Fawrth wrth i Bury ymweld â Rodney Parade yn yr Ail Adran.
Ymosodwyr Casnewydd, Mike Flynn a Chris Zebroski, a gafodd gyfleoedd gorau’r gêm ond roedd gôl-geidwad yr ymwelwyr, Brian Jensen, ar dân a llwyddodd i gadw llechen lân i’r tîm sy’n straffaglu tua gwaelod y tabl.
Mae Casnewydd ar y llaw arall yn aros yn ddeuddegfed yn dilyn y canlyniad hwn ac yn ymddangos yn gynyddol debygol o orffen y tymor yng nghanol y tabl hefyd.
Bydd yn rhaid i dîm Justin Edinburgh fynd ar rediad anhygoel o hyn tan ddiwedd y tymor os am unrhyw obaith o gyrraedd y gemau ail gyfle bellach, a hynny gan ddechrau wrth groesawu Portsmouth i Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
.
Casnewydd
Tîm: McLoughlin, Feely, Hughes, Minshull, (Porter 79′), Naylor, Blake, Chapman, Willmott, Crow (Amadi-Holloway 45′), Zebroski, Flynn
Cardiau Melyn: Minshull 20’, Amadi-Holloway 50’, Chapman 67’, Zebroski 90’
.
Bury
Tîm: Jensen, Veseli, McNulty, Sedgwick, Mills, Hussey, Jones, Mayor, Platt (Akpa-Akpro 70′), Nardiello, Tutte (Proctor 64′)
.
Torf: 2,160