Arsenal 2–2 Abertawe
Cipiodd Abertawe bwynt yn yr Emirates nos Fawrth wrth i chwaraewr canol cae Arsenal, Mathieu Flamini, roi’r bêl yn ei rwyd ei hun ym munud olaf y naw deg.
Roedd yr Elyrch ar y blaen am ran helaeth o’r gêm diolch i gôl gynnar Wilfred Bony ond roedd hi’n ymddangos fod Arsenal wedi dwyn y tri phwynt oddi arnynt tua chwarter awr o’r diwedd wedi dwy gôl gyflym. Ond dychwelodd Abertawe i Gymru gyda phwynt haeddianol yn y diwedd wedi gôl hwyr y Ffrancwr i’w rwyd ei hun.
Peniodd Bony Abertawe ar y blaen o groesiad Neil Taylor wedi ychydig dros ddeg munud i roi’r dechrau perffaith i’r Cymry.
Roedd tîm Garry Monk yn gymharol gyfforddus o hynny tan hanner amser hefyd ac yn llawn haeddu bod ar y blaen ar yr egwyl.
Roedd Arsenal yn well wedi’r egwyl serch hynny a chreodd yr eilydd, Lukas Podolski, gryn argraff. Rhwydodd yr Almaenwr ei hun i ddechrau i ddod â’i dîm yn gyfartal cyn creu’r ail i Olivier Giroud funud yn ddiweddarach.
Wnaeth Abertawe ddim rhoi’r ffidl yn y to a gydag eiliadau’n unig o’r naw deg munud i fynd fe ymddangosodd Leon Britton o bawb yn y cwrt cosbi a gwyrodd y bêl i gefn y rhwyd oddi ar Flamini.
Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe yn y pymthegfed safle yn y tabl, ac yn dod â gobeithion Arsenal o ennill y teitl fwy neu lai i ben.
.
Arsenal
Tîm: Szczesny, Sagna, Gibbs, Arteta, Mertesacker, Vermaelen, Oxlade-Chamberlain (Podolski 57′), Flamini, Giroud (Sanogo 89′), Rosicky (Källström 79′), Cazorla
Goliau: Podolski 73’, Giroud 74’
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Rangel, Taylor (Davies 73′), Britton, Chico, Williams, De Guzmán, Shelvey (Hernández 79′), Bony, Michu (Dyer 63′), Routledge
Goliau: Bony 11’, Flamini [g.e.h.] 90’
Cerdyn Melyn: Bony 34’
.
Torf: 59,937