Garry Monk
Bydd Abertawe’n teithio i’r Emirates i herio Arsenal heno gan obeithio am ganlyniad er mwyn ceisio codi’r clwb o safleoedd cwymp y gynghrair.

Fe gollodd y ddau dîm dros y penwythnos, Abertawe’n cael eu curo 3-2 gan Everton ac Arsenal yn cael cweir o 6-0 gan Chelsea.

Ac fe fydd Abertawe bellach yn edrych yn nerfus dros eu hysgwyddau nawr ar ôl llithro i’r pymthegfed safle, yn dilyn rhediad o gemau sydd heb weld y tîm yn ennill ers wyth gêm.

Dim ond pedwar pwynt sydd bellach rhwng yr Elyrch a Sunderland, sydd yn 18fed, ond mae gan y tîm o ogledd-ddwyrain Lloegr ddwy gêm wrth law.

Mae Arsenal bellach yn bedwerydd yn y gynghrair, saith pwynt y tu ôl i Chelsea ar y brig ond ag un gêm wrth law.

Aaron dal allan

Does dim disgwyl i Aaron Ramsey fod yn nhîm Arsenal heno er bod y Cymro’n agos at wella o anaf i’w glun. Mae Laurent Koscielny hefyd yn debygol o fod allan i’r tîm cartref, sydd eisoes yn gweld eisiau Mesut Özil a Jack Wilshere.

Ond fe fydd Kieran Gibbs ac Alex Oxlade-Chamberlain ar gael i’r Gunners ar ôl y cawlach dros y penwythnos, pan gafodd Gibbs ei anfon o’r maes mewn camgymeriad gan y dyfarnwr er mai ei gyd-chwaraewr oedd yn euog o droseddu.

A chyda Michu a Jonjo Shelvey’n holliach ac yn ymddangos oddi ar y fainc i Abertawe dros y penwythnos, mae gan y rheolwr Garry Monk garfan lawn i ddewis ohoni.

Monk yn disgwyl ymateb

Mae Monk wedi cyfaddef fod rhaid i’w chwaraewyr ddisgwyl ymateb heriol gan Arsenal pan fydd y ddau dîm yn wynebu’i gilydd yn Llundain heno.

A gyda’r Gunners dal â gobeithion o geisio ennill y gynghrair mae Monk yn disgwyl gêm galed i Abertawe.

“Rydym ni’n disgwyl ymateb ganddyn nhw,” meddai Monk yn y gynhadledd cyn y gêm. “Dyna’r neges i’r chwaraewyr. Ond fe geisiwn ni roi’r perfformiad iawn a chael canlyniad.

“Cefais i fy synnu gyda’r canlyniad yn erbyn Chelsea, ond yn amlwg roedd hynny’n rhannol oherwydd yr amgylchiadau. Fe fydd hon yn gêm anodd tu hwnt ac mae gennym ni noson galed o’n blaenau.”

Fe fynnodd ymosodwr Abertawe Wilfried Bony nad oedd Abertawe wedi haeddu colli dros y penwythnos – ac nad oedd ei goliau yn cyfrif am unrhyw beth os nad oedd y tîm yn ennill.

“Roedd dydd Sadwrn yn siomedig. Dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi haeddu colli’r gêm ond fe wnaethon ni,” meddai Bony. “Fe greon ni gyfleoedd ond doedden ni methu sgorio ac roedden ni’n anlwcus.

“Mae’n dda i mi [mod i wedi sgorio dros y penwythnos]. Ond ddaeth o ddim ag unrhyw beth i’r tîm oherwydd fe gollon ni.”