Port Talbot 2–0 Prestatyn

Dwy gôl i ddim i’r tîm cartref oedd hi yn Stadiwm GenQuip brynhawn Sadwrn wrth i Bort Talbot drechu Prestatyn yn y frwydr tua gwaelodion Uwch Gynghrair Cymru.

Rhoddodd Guillem Bauza Bort Talbot ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Gethin Jones ychwanegu ail yn yr ail hanner.

Port Talbot oedd y tîm gorau yn yr ugain munud agoriadol ond bu rhaid aros 25 munud am y cyfle clir cyntaf pan beniodd Rhys Griffiths dros y trawst o chwe llath.

Daeth y gôl agoriadol i’r Gwŷr Dur funud yn ddiweddarach serch hynny. Cafodd Ryan Green ei lorio gan Sean Hessey ar gyrion y cwrt cosbi ac fe anelodd Bauza’r gic rydd i’r gornel isaf o ugain llath.

Y tîm cartref oedd y tîm gorau ar ddechrau’r ail hanner hefyd a chafodd Griffiths gyfle gwych i ddyblu’r fantais yn y munudau agoriadol ond ergydiodd yn wan ac yn syth at John Hill-Dunt yn y gôl.

Ond doedd dim rhaid iddynt aros yn hir am yr ail gôl wrth i amddiffynnwr Port Talbot, Jones, rwydo wedi i Brestatyn fethu â chlirio’r bêl o gic gornel.

Roedd Prestatyn fymryn yn well wedi hynny, gyda’r eilydd, Chris Hartland, yn rhoi ychydig o wmff yn eu chwarae. Daeth Lee Hunt a Sean Hessey yn agos i’r ymwelwyr ond gwnaeth Steven Hall yn y gôl i’r tîm cartref ddau arbediad da.

Bu bron i Griffiths ychwanegu trydedd yn y pen arall a gwnaeth Hill-Dunt yn dda i’w atal ond roedd Port Talbot wedi gwneud hen ddigon i gipio’r tri phwynt.

Mae’r canlyniad yn cadw Port Talbot yn nawfed a Phrestatyn yn ddegfed ond mae pum pwynt bellach yn gwahanu’r ddau dîm tua gwaelodion Uwch Gynghrair Cymru.

Ymateb

Rheolwr Port Talbot, Scott Young:

“Roedd hon wastad yn mynd i fod yn gêm anodd ond fe gawsom ni’r tri phwynt ac roeddynt yn eu haeddu, ar adegau heddiw roeddem ni’n dda iawn.”

.

Port Talbot

Tîm: Hall, John, Surman (Bertorelli 82’), Jones, Green, Harris, Evans, Harling (Brooks 46’), Bauza (Walters 75’), Rose, Griffiths

Goliau: Bauza 26’, Jones 52’

Cardiau Melyn: Griffiths 41’, Harris 57’, Jones 72’, Evans 81’

.

Prestatyn

Tîm: Hill-Dunt, Davies (Hartland 46’), Hayes, Hessey, Lewis, Owen, Stead, Stephens (Murray 84’), Parker, Stones (Hughes 58’), Hunt

Cardiau Melyn: Hessey 26’, Owen 39’

.

Torf: 173