Wrecsam 1–1 Salisbury

Cyfartal gôl yr un oedd hi yn Uwch Gynghrair Skrill brynhawn Sadwrn wrth i Wrecsam groesawu Salisbury i’r Cae Ras yng ngêm gyntaf Kevin Wilkin wrth y llyw.

Rhoddodd Neil Ashton y tîm cartref ar y blaen o’r smotyn cyn i Clovis Kamdjo unioni i’r ymwelwyr.

Roedd y Dreigiau ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf wedi i Ashton rwydo o ddeuddeg llath yn dilyn trosedd Kamdjo ar Jay Harris yn y cwrt cosbi.

Ond gwnaeth Kamdjo yn iawn am ei gamgymeriad yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf pan beniodd groesiad Stuart Sinclair i gefn y rhwyd i ddod â’i dîm yn gyfartal.

Digon di fflach oedd hi yn yr ail hanner wedyn a bu rhaid i’r ddau dîm fodloni ar bwynt yr un.

Mae’r pwynt hwnnw’n ddigon i godi Wrecsam un lle i’r unfed safle ar bymtheg yn nhabl y Gyngres.

.

Wrecsam

Tîm: Coughlin, Wright, Ashton, Livesey, Keates, Carrington, Hunt, Harris, Clarke, Ogleby (Bishop 46′), Ormerod (Anyinsah 80′)

Gôl: Ashton [c.o.s.] 24’

.

Salisbury

Tîm: Puddy (Bittner 82′), Kamdjo, Amankwaah, MacDonald, Brett, Clarke, Wilson, McPhee (Sheringham 65′), Sinclair, Frear, Fitchett

Gôl: Kamdjo 45’

Cerdyn Melyn: Amankwaah 63’

.

Torf: 2,850