Torquay 0–1 Casnewydd
Roedd gôl gynnar Chris Zebroski yn ddigon i Gasnewydd drechu deg dyn Torquay ar Plainmoor yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.
Aeth yr ymwelwyr o dde Cymru ar y blaen wedi dim ond wyth munud cyn dal eu gafael tan y diwedd a bu rhaid i’r tîm cartref chwarae bron i awr gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Shamir Goodwin.
Roedd yr Alltudion ar y blaen wedi i Zebroski godi’r bêl dros y gôl-geidwad ac i gefn y rhwyd o ongl dynn yn gynnar yn y gêm.
Amddiffyn y fantais honno oedd tasg Casnewydd wedi hynny ac roedd hi’n dasg haws wedi i Goodwin dderbyn cerdyn coch am daro Michael Flynn â’i ben elin.
Cafodd y tîm ar y gwaelod, Torquay, gyfleodd yn yr ail hanner serch hynny ond llwyddodd Ian McLoughlin i arbed cynigion Aaron Downes ac Ashley Yeoman.
Mae’r canlyniad yn codi Casnewydd yn ôl i hanner uchaf yr Ail Adran ond maent saith pwynt o’r gemau ail gyfle o hyd yn y deuddegfed safle.
.
Torquay
Tîm: Rice, Tonge (O’Connor 69′), Nicholson (Craig 68′), Mansell, Pearce, Downes, Goodwin, Lathrope, Showunmi (Yeoman 59′), Benyon, Bodin
Cerdyn Melyn: Pearce 82’
Cerdyn Coch: Goodwin 34’
.
Casnewydd
Tîm: McLoughlin, Naylor, Hughes, Minshull, Blake, Feely, Flynn, Chapman (Porter 82′), Crow (Amadi-Holloway 75′), Willmott (Jeffers 92′), Zebroski
Gôl: Zebroski 8’
Cerdyn Melyn: Minshull 75’
.
Torf: 2,874