Caerdydd 3–6 Lerpwl
Collodd Caerdydd yn drwm yn erbyn Lerpwl yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn er iddynt fynd ar y blaen ddwywaith yn yr hanner cyntaf.
Rhoddodd Jordan Mutch a Fraizer Campbell y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond unionodd Lerpwl ar y ddau achlysur cyn mynd ymlaen i ennill y gêm yn gyfforddus gyda phedair gôl arall wedi’r egwyl.
Cafodd Caerdydd y dechrau perffaith wrth i Campbell greu’r gôl agoriadol i Mutch wedi llai na deg munud.
Yn anffodus i’r tîm cartref, ychydig funudau’n unig a barodd y fantais cyn i Luis Suarez daro nôl gyda gôl syml yn dilyn gwaith da Jordan Henderson a Glen Johnson.
Roedd yr Adar Gleision ar y blaen eto ugain munud cyn yr egwyl serch hynny wedi i Campbell a Mutch gyfuno eto, i greu gôl i Campbell y tro hwn.
Ond cyfartal oedd hi ar hanner amser wedi i Martin Skertel sgorio o gic gornel Philippe Coutinho.
Dipyn o hanner cyntaf felly ond roedd mwy o gyffro a goliau i ddod yn yr ail gyfnod. Peniodd Skertel Lerpwl ar y blaen am y tro cyntaf o groesiad Coutinho eto, cyn i Suarez rwydo ei ail ef a phedwaredd ei dîm ar yr awr.
Creodd y gŵr o Uruguay’r bumed wedi hynny i Daniel Sturridge chwarter awr o’r diwedd ac roedd y gêm ar ben.
Gôl gysur yn unig oedd ail gôl Mutch yn y munudau olaf ond Lerpwl a Suarez a gafodd y gair olaf pryn bynnag wrth i brif sgoriwr yr Uwch Gynghrair gwblhau ei hatric yn yr eiliadau olaf.
Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn ail o waelod y tabl gyda dim ond saith gêm ar ôl.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Fabio, John (Daehli 65′), Théophile-Catherine, Torres Ruiz, Caulker, Mutch, Medel, Bellamy (Jones 70′), Campbell, Kim (Zaha 65′)
Goliau: Mutch 9’, 88’, Campbell 25’
Cardiau Melyn: Torres Ruiz 33’, Fabio 50’
.
Lerpwl
Tîm: Mignolet, Johnson, Flanagan (Cissokho 73′), Gerrard, Skrtel, Agger, Henderson, Coutinho (Sterling 68′), Suarez, Sturridge (Sakho 92′), Allen
Goliau: Suarez 16’, 60’, 90’, Skertel 41’, 54’, Sturridge 75’
Cardiau Melyn: Gerrard 2’, Skertel 90’, Allen 90’
.
Torf: 28,018