Everton 3–2 Abertawe
Colli fu hanes Abertawe yn erbyn Everton yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn er gwaethaf hanner cyntaf da ar Barc Goodison.
Roedd y Cymry’n gyfartal ar yr egwyl diolch i gôl Wilfred Bony ond Everton oedd yn fuddugol yn y diwedd yn dilyn dwy gôl yn chwarter awr cyntaf yr ail hanner. Gôl gysur yn unig oedd ymdrech hwyr Ashley Williams.
Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi ugain munud pan rwydodd y dibynadwy, Leighton Baines, o’r smotyn yn dilyn trosedd Chico Flores ar Ross Barkley yn y cwrt cosbi.
Ond roedd yr Elyrch yn chwarae’n dda ac roeddynt yn llawn haeddu unioni pan rwydodd Bony yn dilyn gwaith da Angel Rangel ar y dde ddeuddeg munud cyn yr egwyl.
Yr ymwelwyr o Gymru a gafodd y gorau o’r meddiant drwyddi draw ond cawsant eu cosbi am beidio gwneud digon ag o pan sgoriodd Everton ddwy gôl gyflym ar ddechrau’r ail hanner.
Roedd Romelu Lukaku wedi bod ym mhoced Ashley Williams trwy gydol yr hanner cyntaf ond llwyddodd y gŵr o Wlad Belg i roi ei dîm yn ôl ar y blaen ar ddechrau’r ail yn dilyn gwaith creu ei gyd wladwr, Kevin Mirallas.
Mirallas oedd yn gyfrifol am y drydedd funudau’n ddiweddarach hefyd, wrth i Ross Barkley benio ei groesiad i gefn y rhwyd y tro hwn.
Fe wnaeth Williams benio ail i Abertawe o gic gornel Pablo Hernandez yn hwyr yn y gêm ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi erbyn hynny.
Mae’r canlyniad hwn ynghyd â buddugoliaethau i Hull a Norwich yn golygu fod Abertawe yn llithro i’r pymthegfed safle yn y tabl, bedwar pwynt yn unig uwch ben safleoedd y gwymp gydag wyth gêm i fynd.
.
Everton
Tîm: Howard, Coleman, Baines, Barry, Stones, Distin, Mirallas, McCarthy, Lukaku (Deulofeu 93′), Barkley (Naismith 84′), McGeady (Osman 85′)
Gôl: Baines [c.o.s.] 20’, Lukaku 53’, Barkley 59’
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Rangel, Davies, Britton, Chico, Williams, Dyer (Shelvey 63′), Cañas (De Guzmán 69′), Bony (Michu 70′), Hernández, Routledge
Goliau: Bony 33’, Williams 90’
.
Torf: 36,260