Gyda dwy fuddugoliaeth yn unig yn eu 15 gêm ddiwethaf, mae gan chwaraewyr Abertawe ddigon i’w brofi wrth iddyn nhw deithio i Lerpwl i chwarae Everton yfory.
Dyna’r neges gan y rheolwr wrth iddo annog ei chwaraewyr i ddangos balchder ar y cae.
“Mae eu henw da a’u cymeriad fel chwaraewyr yn y fantol, nid dim ond y clwb a fi fel rheolwr ond pawb sy’n ymwneud â’r clwb,” meddai Gary Monk.
“Pan fyddwch chi’n cael eich amau, mae yna duedd i ymateb, a gobeithio y bydd hynny yn digwydd yfory.”
Michu am chwarae ei ran
Mae’r ymosodwr Michu yn benderfynol o helpu Abertawe i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr. Fe wnaeth ddod i’r cae am gyfnod byr yn y gêm gollodd Abertawe 2-1 i West Brom, ar ôl dioddef anaf hir.
Er bod sibrydion ar led nad yw Michu yn hapus yn Abertawe, mae’r rheolwr yn dweud nad oes unrhyw wirionedd yn hynny.
“Mae am wneud yn dda i’r clwb.Mae ganddo’r gallu i sgorio goliau a dyna y mae am ei wneud dros Abertawe. Mae wedi ymarfer yn dda ac mae’r garfan yn hapus wrth ei weld yn gwella,” meddai Monk.
Er bod tipyn gan Michu i’w wneud nes y bydd yn medru chwarae gêm lawn, mae Monk yn edrych yn ofalus ar sut y gall ei ddefnyddio o hyn hyd ddiwedd y tymor er budd y tîm gan ei fod yn chwaraewr mor arbennig.