Dylai’r profion ar gyfer darpar-berchnogion clybiau pêl-droed gael eu cefnogi gan y gyfraith, yn ôl yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Damian Collins.
Dywedodd yn ystod trafodaeth yn San Steffan fod angen i bob darpar-berchennog gael prawf cymhwyster sydd wedi’i reoli gan yr awdurdodau priodol, a’i ddiogelu gan gyfraith gwlad.
Mynegodd bryder am sefyllfa perchennog clwb Birmingham City, ar ôl i lys ganfod y perchennog, Carson Yeung yn euog o dwyll ariannol.
Yn ystod y tymor hwn hefyd, mae’r Eidalwr Massimo Cellino wedi gwneud cais i brynu clwb Leeds United.
Cafwyd Cellino yn euog ddwywaith yn y gorffennol o dwyll, ond dydy’r collfarnau ddim bellach yn effeithio ar ei allu i brynu’r clwb gan eu bod nhw dair blynedd ar ddeg a deunaw mlynedd yn ôl, ac felly wedi mynd y tu hwnt i’r amser penodol sy’n cael ei dderbyn.
Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon, Helen Grant fod yr awdurdodau pêl-droed wedi gwneud ychydig o welliannau trwy gyflwyno gwell drefn o wirio cymhwyster.