Y Seintiau Newydd 4–1 Bangor

Aeth y Seintiau Newydd gam yn nes at gadw gafael ar eu pencampwriaeth gyda buddugoliaeth gyfforddus gartref yn erbyn Bangor ar Neuadd y Parc brynhawn Sadwrn.

Y Seintiau oedd y tîm gorau ar y cyfan ond nid oedd perfformiad chwerthinllyd Dave Roberts – y gôl-geidwad sydd ar fenthyg o Brestatyn – yn fawr o help i’r ymwelwyr o Fangor wrth iddynt golli o bedair gôl i un.

Hanner Cyntaf

Cafwyd dechrau dramatig iawn gyda Mike Wilde yn sgorio’r gôl agoriadol i’r Seintiau wedi dim ond 23 eiliad! Dwynodd Alex Darlington y bêl oddi ar Anthony Miley cyn cael ei lorio yn y cwrt cosbi gan y golwr, Roberts. Gallai’r dyfarnwr fod wedi rhoi cic o’r smotyn a cherdyn coch ond chwaraeodd y fantais, sgoriodd Wilde ac arhosodd Roberts ar y cae (am y tro) gyda cherdyn melyn yn unig.

Doedd fawr gwell trefn ar amddiffyn y tîm cartref mewn gwirionedd pan unionodd Jamie Petrie y sgôr wedi dim ond wyth munud. Ciciodd Paul Harrison y bêl yn syth i gefn Phil Baker cyn i Kai Edwards ei phasio’n syth i Petrie ar ochr y cwrt cosbi, ac er i Harrison arbed yr ergyd gyntaf fe sgoriodd yr ymosodwr ar yr ail gynnig.

Distawodd pethau fymryn wedi hynny ond cafodd y ddau dîm gyfleoedd i fynd ar y blaen cyn yr egwyl. Peniodd Les Davies dros y trawst o dair llath i Fangor ac ergydiodd Jamie Mullen ym mhell dros y trawst yn dilyn pas wych Sam Finley yn y pen arall.

Ail Hanner

Un yr un ar yr egwyl felly ond roedd y Seintiau yn ôl ar y blaen o fewn dau funud i ddechrau’r ail gyfnod wedi i Darlington ganfod y gornel isaf o ochr y cwrt cosbi. Ergyd ddigon gwantan oedd hi mewn gwirionedd ond safodd Roberts yn stond am ryw reswm a’i gwylio yn mynd heibio iddo.

Ond doedd dau gamgymeriad ddim yn ddigon i Roberts a chollodd ei ben yn llwyr yn fuan wedyn pan garlamodd ym mhell allan o’i gwrt cosbi i gasglu ail gerdyn melyn a cherdyn coch am lorio Chris Jones.

Daeth yr eilydd deunaw oed, Nick Bould, i’r cae i Fangor ond allai o wneud dim i atal Wilde rhag sgorio ei ail ef a thrydedd ei dîm toc cyn yr awr yn dilyn gwaith creu da Mullen.

Gwnaeth Bould yn dda i atal Mullen gydag arbediad dwbl wedi hynny ond roedd wedi ei guro eto chwarter awr o’r diwedd gan hanner foli Finley o bum llath ar hugain.

Bu bron i Davies gipio gôl gysur wych i Fangor ond tarodd ei gynnig yn erbyn y trawst wrth i’r Seintiau ennill y gêm yn gyfforddus.

Ymateb

Nev Powell, rheolwr Bangor:

“Rydyn ni’n siomedig i golli. Roedd ymdrech yr hogiau yn yr hanner cyntaf yn wych ac roedd hi’n gêm eithaf cyfartal, ond yn amlwg wrth fynd lawr i ddeg dyn ar gae plastig yn yr ail hanner roedd pethau yn mynd i fod yn anodd.”

Craig Harrison, cyfarwyddwr pêl droed Y Seintiau Newydd, ar y gêm:

“Doedd y perfformiad ddim yn wych. Fe chwaraeon ni’n dda ar y cyfan ond fe gawsom ni chwarter awr slac yn y ddau hanner ac fe newidiodd y cerdyn coch y gêm.”

Ac ar y ras am y bencampwriaeth:

“Dydyn ni ddim yn poeni beth mae Airbus yn ei wneud. Y cwbl yr ydyn ni’n ei boeni amdano yw beth yr ydyn ni’n ei wneud, mae’r cwbl yn ein dwylo ni.”

Mae’r canlyniad yn cadw’r Seintiau ar frig y tabl ac mae Bangor yn aros yn drydydd hefyd gan i’r Rhyl golli yn y Drenewydd.

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, A. Edwards, Marriott, Baker, K. Edwards (Rawlinson 31’), Finley, Seargeant, Mullan, Jones, Wilde (Draper 79’), Darlington (Folwer 63’)

Goliau: Wilde 1’, 59’, Darlington 47’, Finley 75’

Cardiau Melyn: Finley 51’, Fowler 82’

.

Bangor

Tîm: D. Roberts, Walker, R. Jones, Johnston (C. Jones 46’), Miley, G. Jones, R. Edwards, C. Roberts, Davies, Petrie (Bould 56’), S. Edwards (McDaid 66’)

Gôl: Petrie 8’

Cardiau Melyn: D. Roberts 1’, S. Edwards 26’, Johnson 33’

Cerdyn Coch: D. Roberts 55’

.

Torf: 368