Wrecsam 0–0 Kidderminster
Di sgôr oedd hi wrth i Kidderminster ymweld â’r Cae Ras i herio Wrecsam yn Uwch Gynghrair Skrill brynhawn Sadwrn.
Cau’r bwlch ar y pump uchaf oedd bwriad y ddau dîm ar y dechrau ond prin oedd y cyfleoedd yn y ddau ben mewn gêm ddiflas.
Gwnaethpwyd pethau’n anoddach i’r Dreigiau ddeuddeg munud o’r diwedd pan dderbyniodd Andy Bishop ail gerdyn melyn a cherdyn coch.
Cafodd Wrecsam gyfle i’w hennill hi yn y munudau olaf serch hynny ond gwnaeth Daniel Lewis yn y gôl i Kidderminster yn dda i atal cynnig hwyr Brett Ormerod.
Mae’r Dreigiau yn llithro ddau le i’r pymthegfed safle yn nhabl y Gyngres er gwaethaf y pwynt.
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Tomassen, Wright, Livesey, Ashton, Carrington, Harris, Hunt (Ogleby 70′), Keates, Anyinsah (Ormerod 77′), Bishop
Cardiau Melyn: Keates 42’, Bishop 53’, Tomassen 65’, Ashton 80’, Ormerod 87’
Cerdyn Coch: Bishop 79’
.
Kidderminster
Tîm: Lewis, Demetriou, Grimes, Vaughan, Gowling, Cieslewicz (Johnson 85′), Jackman (O’Keefe 63′), Gittings, Storer, Morgan-Smith, Malbon
Cardiau Melyn: Storer 24’, Morgan-Smith 90’
.
Torf: 3,159