Mansfield 2–1 CasnewyddC
Ildiodd Casnewydd gôl hwyr wrth golli yn erbyn Mansfield ar Field Mill yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.
Unionodd Rene Howe i’r ymwelwyr o Gymru ar ddechrau’r ail gyfnod wedi i Ryan Tafazolli roi Mansfield ar y blaen yn yr hanner cyntaf, ond cipiodd y tîm cartref y pwyntiau i gyd yn y diwedd gyda gôl hwyr Anthony Howell.
Ychydig llai na hanner awr oedd wedi mynd pan roddodd Tafazolli y tîm cartref ar y blaen gyda pheniad o groesiad Ben Hutchinson.
Dylai gôl-geidwad Casnewydd, Elliot Parish, fod wedi dal honno, ac roedd gôl-geidwad Mansfield ar fai pan unionodd Casnewydd wedi pum munud o’r ail hanner hefyd. Methodd Alan Marriott ddal cic rydd hir Tom Naylor ac roedd Howe wrth law i fanteisio.
Daeth Adam Chapman a Lee Minshull yn agos i Gasnewydd wedi hynny gyda chynigion o bell ond amddifadwyd y Cymry o bwynt pan blymiodd Howell i benio’r gôl fuddugol i gefn y rhwyd ym munud olaf y naw deg.
Mae’r Alltudion yn llithro i’r unfed safle ar ddeg yn nhabl yr Ail Adran o ganlyniad i’r gôl hwyr.
.
Mansfield
Tîm: Marriott, Westlake, Daniel, Tafazolli, Dempster, Sutton (Meikle 86′), Howell, Murray, Hutchinson (Palmer 68′), Clucas, Rhead
Goliau: Tafazolli 28’, Howell 90’
Cardiau Melyn: Clucas 36’, Howell 41’, Murray 65’
.
Casnewydd
Tîm: Parish, Jackson, Burge, Hughes, Anthony, Naylor, Chapman (Flynn 86′), Minshull, Zebroski (Jolley 92′), Howe (Jeffers 92′), Willmott
Gôl: Howe 50’
Cardiau Melyn: Zebroski 39’, Howe 45’, Hughes 90’
.
Torf: 2,756