Caerdydd 3–1 Fulham
Rhoddwyd hwb i obeithion Caerdydd o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Fulham brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Steven Caulker yr Adar Gleision ar y blaen yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn i Lewis Holtby unioni i Fulham. Ond tarodd Caerdydd yn ôl gydag ail Caulker hanner ffordd trwy’r ail hanner cyn i gôl i rwyd eu hunain gan Fulham sicrhau tri phwynt holl bwysig i’r Cymry.
Cafwyd 45 munud agoriadol digon agos cyn i Caulker roi’r tîm cartref ar y blaen toc cyn yr egwyl gydag ergyd yn y cwrt chwech yn dilyn cic gornel.
Cafodd Kenwyne Jones gyfle gwych i ddyblu’r fantais yn gynnar yn yr ail gyfnod ond peniodd heibio’r postyn.
Yna, roedd Fulham yn gyfartal ar yr awr wedi i gic gornel Giorgos Karagounis gael ei gwyro i lwybr Holtby gan Johnny Heitinga cyn i’r chwaraewr canol cae sgorio.
Roedd yr Adar Gleision yn ôl ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner a Caulker oedd y sgoriwr unwaith eto. Peniad o groesiad Jordan Mutch oedd hi’r tro hwn a honno oedd pedwaredd gôl yr amddiffynnwr o’r tymor – dim ond un yn llai na’r prif sgoriwr, Fraizer Campbell!
Bu bron i Campbell ychwanegu at ei gyfanswm ef funudau’n ddiweddarach ond aeth y bêl i mewn oddi ar chwaraewr Fulham, Sascha Riether, yn y diwedd, nid fod Caerdydd yn poeni achos roedd y tri phwynt bellach yn ddiogel.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Cymry i’r deunawfed safle yn y tabl a dim ond gwahaniaeth goliau’n unig sydd yn eu gwahanu hwy a West Brom yn yr ail safle ar bymtheg bellach wedi i’r Baggies golli gartref yn erbyn Man U.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Fabio, John, Medel (Wolff Eikrem 81′), Caulker, Turner (Théophile-Catherine 90′), Noone, Mutch, Jones, Kim, Campbell (Daehli 72′)
Goliau: Caulker 45’, 67’, Riether [g.e.h.] 71’
Cerdyn Melyn: Kim 56’
.
Fulham
Tîm: Stekelenburg, Riether, Richardson, Sidwell, Heitinga, Hangeland, Dejagah (Karagounis 50′), Holtby, Woodrow (Bent 76′), Mitroglou, Riise (Kacaniklic 45′)
Gôl: Holtby 59’
.
Torf: 26,796