Dim ond pwynt sydd yn gwahanu’r ddau dîm sy’n eistedd ar waelod yr Uwch Gynghrair.  Mae yna amheuon ynglŷn â ffitrwydd chwaraewr canol cae Caerdydd Craig Noone a’r amddiffynnwr Andrew Taylor.

Ond mae yna ychydig o gysur i Gaerdydd wedi i Gary Medel ddychwelyd y penwythnos diwethaf i’r cae yn erbyn Tottenham Hotspur ac mae’n debyg y bydd yn dechrau yfory.

Ar ôl ildio 49 gôl yn barod y tymor hwn, bydd tîm Ole Gunnar Solskjaer yn benderfynol o rwystro unrhyw gyfle i’r ymwelwyr o flaen gôl.