Mae Cymru wedi ffeindio olynydd teilwng i John Hartson, yn ôl Iolo Cheung …

Mae ‘na tipyn o gymharu wedi bod yn ddiweddar rhwng y seren newydd a’r hen feistr ym mhêl-droed Cymru, gan gynnwys ar ein podlediad diweddaraf ni ar golwg360.

Ond nid trafod Gareth Bale vs Ryan Giggs fydda i heddiw, ond dau arall o orffennol a phresennol Cymru, Sam Vokes a John Hartson.

O’r olwg gyntaf does dim llawer o gymhariaeth – fe arweiniodd Hartson linell flaen Cymru am agos i ddegawd, fo ‘di’r nawfed prif sgoriwr yn hanes Cymru efo 14 gôl mewn 51 cap, ac fe chwaraeodd i lwyth o glybiau mawr gan gynnwys Arsenal, West Ham a Celtic.

Ar y llaw arall hon ‘di’r tymor da cyntaf ma’ Vokes wedi cael yn ei yrfa, dydi o erioed wedi dechrau’n gyson i Gymru yn ei chwe blynedd o bêl-droed rhyngwladol, gan sgorio chwech mewn 31 gêm yn unig – a’r clwb mwyaf mae o wedi chwarae i ydi Wolves.

Mi fysa llawer o gefnogwyr Cymru’n gorffen yn fanno, gan resynu bod Cymru heb lwyddo i ffeindio ymosodwr cyfiawn i lenwi sgidiau Hartson ers i’r gŵr mawr ymddeol o’r crys coch yn 2006.

Ond Vokes ‘di’r boi sy’n mynd i wneud hynny o’r diwedd, ac mae ‘na lot o resymau pam mai fo sy’n haeddu bod yn rhif naw nesa’ Cymru.

Clwb

Yn gynta’, mae o’n sgorio’n gyson am y tro cynta’ yn ei yrfa, ac ar drothwy cyrraedd ugain gôl y tymor yma’n barod.

Iawn, yn y Bencampwriaeth efo Burnley, ond maen nhw’n edrych yn debygol iawn o ennill dyrchafiad y tymor yma diolch i goliau Vokes (ac Ings), ac mae ‘na siawns dda y bydd y Cymro’n cael cyfle i brofi ei hun yn yr Uwch Gynghrair ym mis Awst.

Dim ond yn nhri o’i bedwar tymor efo Celtic y llwyddodd Hartson i sgorio 20 gôl mewn tymor, ac i fod yn deg mae honno’n gynghrair lot haws i sgorio ynddi os ‘dach chi’n chwarae i un o’r Big Firm.

Wrth gwrs, mae angen i Vokes wneud hynny’n fwy cyson na dim ond eleni er mwyn cyfiawnhau’r clod yna, ond mae’n sicr yn edrych yn addawol ar hyn o bryd.

Cymru

Mae gan Hartson well cyfradd na Vokes o sgorio dros Gymru os edrychwch chi ar ei gapiau – gôl bob 3.6 gêm o’i gymharu â gôl bob 5.2 i Vokes.

Ond mae hynny’n anwybyddu’r ffaith fod Vokes yn aml wedi ennill ei gapiau i Gymru fel eilydd, tra bod Hartson wedi dechrau’r rhan fwyaf o’i gemau.

Felly os edrychwch chi ar goliau pob munud yng nghrys Cymru, mae Vokes a deud y gwir ychydig yn well – gôl bob 196 munud ar y cae o’i gymharu â 205 Hartson.

(Cyfuniad o www.transfermarkt.com a Wikipedia ar gyfer y ffigyrau, gyda llaw – croeso i chi fy nghyfeirio at ffynonellau gwell!)

Iawn, dim ond un o’i chwe gôl ddaeth mewn gêm gystadleuol – mewn buddugoliaeth o 1-0 dros Azerbaijan yn 2008.

Ond diddorol ydi nodi mai dim ond dwy gôl y sgoriodd Hartson yn ei 20 cap cyntaf – dim ond yn 2001 pan oedd yn 26 oed y dechreuodd sgorio’n rheolaidd dros Gymru.

Mae Vokes yn 24, gyda llaw – a does ganddo fawr o gystadleuaeth am y crys rhif naw ar hyn o bryd.

Safon y chwarae

Mae’n rhaid canmol safon chwarae Vokes dros Gymru’n ddiweddar hefyd. Nid yn unig y mae’i arddull o chwarae’n cynnig opsiwn yn yr awyr i Gymru, ond mae’i bresenoldeb a’i waith caled yn yr ymosod yn llwyddo i greu lle i’n chwaraewyr canol cae dawnus hefyd.

Dydi’i goliau o ddim wedi bod yn rhai ffôl chwaith. Fe ddangosodd o ymwybyddiaeth y mae pob ymosodwr da ei angen i gipio’r gôl yn erbyn Gwlad yr Ia, fe sgoriodd o beniad hyfryd yn erbyn Awstria’r llynedd, a chael dwy gôl dda yn erbyn Norwy yn 2011.

Ddim yn dweud nad oedd Hartson yn sgorio goliau da chwaith, wrth gwrs – mae’r un a daranodd i gefn y rhwyd yn erbyn Azerbaijan pan enillon ni 4-0 yn aros yn y cof – ond nid ffliwcs ydi goliau Vokes.

Iawn, bydd angen i Vokes sgorio’n reit gyson am yr ymgyrch neu ddau nesaf nes ein bod ni wir yn medru deud ei fod o’n cyrraedd lefelau John Hartson.

Ond am y rhesymau uchod, a’r ffaith ei bod yn ymddangos fel petai’n gwella’n sydyn, dwi ddim yn meddwl ei fod o’n rhy bell o’r safon.

Felly ydi Cymru wedi ffeindio’r ymosodwr fydd yn tanio ni i Ewro 2016? Neu, o bosib, oedd Big John Hartson ddim cweit mor dda yn y bôn ac y mae’n cael ei gofio?

Ydych chi’n cytuno bod Sam Vokes yn olynydd teilwng? Gallwch drydar Iolo ar @iolocheung.