Mae Ipswich wedi arwyddo chwaraewr canol cae Crystal Palace, Jonathan Williams, ar fenthyg am fis.
Dyw’r Cymro, sy’n 20 oed, ddim wedi bod yn chwarae llawer i dîm yr Uwch Gynghrair eleni, ar ôl dioddef anaf yn yr hydref a gadwodd ef allan am ddeufis.
Cafodd Williams ei gap cyntaf i Gymru llynedd yn erbyn yr Alban, ac mae bellach wedi chwarae pedair gwaith dros ei wlad.
Dywedodd ‘Joniesta’, fel mae’n cael ei alw gan gefnogwyr Cymru, ei fod yn edrych ymlaen at yr her o chwarae dros Ipswich yn y Bencampwriaeth.
“Rwy’n gwybod clwb mor fawr yw Ipswich,” meddai Williams wrth wefan y clwb ar ôl arwyddo. “Maen nhw wedi bod yn yr Uwch Gynghrair a dwi’n gwybod mai dyna ble maen nhw eisiau bod eto.”
Dim ond pum pwynt i ffwrdd o safleoedd y gemau ail gyfle mae Ipswich, ac fe ddywedodd Williams ei fod yn gobeithio cyfrannu at wthio’r tîm yn uwch.
“Dim ond dwy fuddugoliaeth [yw’r bwlch yna] – dyw hynny’n ddim byd. Mae unrhyw beth yn bosib yn y gynghrair yma.”