Garry Monk
Roedd Abertawe yn “wych” neithiwr yn eu gêm gyfartal yn erbyn Napoli yng Nghynghrair Ewropa.

Dyna farn y rheolwr Garry Monk wedi’r ornest yn erbyn y cewri o’r Eidal.

Er mae Napoli, sydd yn drydydd yn Serie A ar hyn o bryd, oedd y ffefrynnau cyn y gêm, roedd Abertawe cystal os nad yn well na’u gwrthwynebwyr ac fe gawson nhw ddigon o gyfleoedd i ennill y gêm.

Ac er nad oedden nhw wedi llwyddo i gipio’r fantais yng nghymal cyntaf rownd 32 olaf y gwpan, roedd Monk yn bles â pherfformiad yr Elyrch.

“Ddylen ni wedi cael mwy, ond dyna i chi berfformiad gennym ni,” meddai Monk wrth siarad ar ôl y gêm. “[Napoli] yw un o dimau gorau Ewrop.

“Dywedais i wrth i chwaraewyr wedyn: ‘Wow’. Os allen nhw wneud hynny yn eu herbyn nhw, fe allwn nhw wneud hynny yn erbyn unrhyw un. Mae’n hwb fawr i hyder y chwaraewyr.

“Yr unig siom yw na chawsom ni gôl. Roedden ni’n haeddu o leiaf cwpl o goliau.

“Roedd golwyr [Napoli] yn wych ac efallai fod angen i ni gymryd ein cyfleoedd yn well, ond heblaw am hynny roedd y bechgyn yn wych.”

Llechen lân yn bwysig

Pablo Hernandez oedd un o’r chwaraewyr a ddisgleiriodd i Abertawe cyn iddo ildio’i le i Jonathan de Guzman yn yr ail hanner, gydag un pas ganddo yn creu cyfle euraidd i’r ymosodwr Wilfried Bony.

Ac yn ôl y chwaraewr canol cae mae’r canlyniad yn golygu bod gan Abertawe siawns dda o gyrraedd y rownd nesaf pan fyddan nhw’n ymweld â Napoli yn yr ail gymal wythnos nesaf.

“Y peth pwysig oedd cadw llechen lân, a’r ffaith fod Napoli heb sgorio,” meddai Hernandez. “Mae’r gêm wythnos nesaf yn Napoli yn 50-50 i’r ddau dîm.

“Mae’r tîm yn hapus, a fi’n credu bod y cefnogwyr hefyd. Roedden ni efallai’n haeddu mwy ond roedd hi’n gêm dda i ni. Chwaraeon ni bêl-droed da iawn.”

Clod gan Benitez

Dywedodd rheolwr Napoli, Rafa Benitez, ei fod yn hapus â’r canlyniad o ystyried perfformiad Abertawe.

“Dw i’n credu bod gêm gyfartal yn ganlyniad da,” meddai cyn-reolwr Lerpwl a Chelsea. “Doedd hi ddim yn hawdd yn erbyn Abertawe, sy’n chwarae’r bêl o gwmpas yn dda iawn ac yn gyflym ar yr asgell.

“Roedden ni’n gwybod y gallen nhw chwarae gyda thempo uchel a meddiant. Mae’n wahanol i bêl-droed yn yr Eidal, ac fe geisiais esbonio hynny i’m chwaraewyr.

“Yn y diwedd mae’n rhaid i ni fod yn hapus oherwydd fe chwaraeon nhw’n dda. Mae’n rhaid rhoi clod i Abertawe am hynny.”