Abertawe 0–0 Napoli


Roedd Abertawe braidd yn anlwcus i beidio ag ennill yn erbyn Napoli yng nghymal cyntaf eu rownd 32 olaf yng Nghynghrair Ewropa ar y Liberty nos Iau.

Rheolodd yr Elyrch y gêm ar y cyfan, ond efallai y bydd tîm Garry Monk yn difaru peidio mynd ag o leiaf un gôl o fantais gyda hwy i’r Eidal yr wythnos nesaf ar ôl methu sawl cyfle da.

Bu rhaid i Rafael Barbosa yn y gôl i’r ymwelwyr fod yn effro i atal Nathan Dyer wedi dim ond chwe munud, a gwnaeth y gôl-geidwad yn dda i atal Wilfred Bony un-ar-un hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf hefyd.

Abertawe oedd y tîm gorau trwy gydol y 45 munud cyntaf ond gorffennodd yr Elyrch yr hanner yn arbennig o gryf. Crëwyd cyfleoedd da iawn i Bony ac Ashley Williams ond peniodd y naill yn syth at Barbosa a’r llall ym mhell dros y trawst.

Nid oedd hi’n gêm cweit cystal wedi’r egwyl ond llwyddodd Abertawe i greu cyfleoedd da serch hynny.

Daeth y cyntaf o’r rheiny i Williams â’i ben unwaith eto ac er i’r capten daro’r targed y tro hwn, roedd hi’n syth at yr eilydd ôl-geidwad, Pepe Reina.

Bu bron i Wayne Routledge grymanu’r bêl i’r gornel uchaf wedi hynny ond cafodd yntau hefyd ei atal gan Reina, a llwyddodd y Sbaenwr rhwng y pyst i’r Eidalwyr arbed peniad rhydd ei gyd wladwr, Chico Flores, yn y munudau olaf hefyd.

Sawl cyfle wedi ei wastraffu i Abertawe felly ond o leiaf fe fydd yr Elyrch yn dechrau’r ail gymal yn y Stadio San Paolo yr wythnos nesaf gyda llechen lân.

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Rangel, Davies, Britton, Chico, Williams, Dyer (Emnes 79′), Cañas (Shelvey 71′), Bony, Hernández (De Guzmán 56′), Routledge

Cardiau Melyn: Hernández 56’, De Guzmán 84’

.

Napoli

Tîm: Barbosa (Reina 45′), Maggio, Réveillere, Inler, Adriano Buss, Britos, Callejón, Dzemaili, Higuaín (Pandev 84′), Hamsik, Insigne (Mertens 74′)

Cardiau Melyn: Insigne 59’, Maggio 71’, Hamsik 72’ .

Torf: 18,000