Casnewydd 3–2 Rhydychen

Cafodd Casnewydd fuddugoliaeth dda yn yr Ail Adran nos Fawrth wrth i Rydychen ymweld â Rodney Parade.

Er i’r ymwelwyr fynd ar y blaen gyda gôl gynnar roedd Casnewydd yn gyfartal toc cyn yr egwyl ac yna ddwy gôl ar y blaen erbyn saith munud o ddiwedd y gêm. Rhwydodd Rhydychen gôl gysur wedi hynny ond daliodd Casnewydd eu gafael ar y tri phwynt.

Dechreuodd Rhydychen y gêm yn drydydd yn y tabl a chawsant y dechrau perffaith gyda gôl i James Constable yn y chwarter awr cyntaf. Ond roedd Casnewydd yn gyfartal erbyn hanner amser diolch i Rene Howe.

Yna, sicrhaodd y tîm cartref y fuddugoliaeth gyda dwy gôl mewn deuddeg munud yn yr ail gyfnod. Rhoddodd Ryan Burge y Cymry ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner i ddechrau cyn i Chris Zebroski ychwanegu’r drydedd yn fuan wedyn.

Bu rhaid i Gasnewydd ddioddef munud neu ddau anghyfforddus ar ddiwedd y gêm wedi i Alfie Potter rwydo ail yr ymwelwyr ond cadwodd tîm Justin Edinburgh eu gafael ar y fuddugoliaeth.

Mae’r tri phwynt yn codi’r Cymry ddau le i’r wythfed safle yn nhabl yr Ail Adran, chwe phwynt o’r safleoedd ail gyfle, ond gyda sawl gêm wrth gefn.

.

Casnewydd

Tîm: Parish, Chapman (Porter 85′), Burge, Pipe, Anthony, Yakubu, Minshull, Willmott, Howe, Sandell, Zebroski (Jeffers 85′)

Goliau: Howe 45’, Burge 71’, Zebroski 83’

Cardiau Melyn: Chapman 62’, Minshull 89’, Howe 90’

.

Rhydychen

Tîm: Clarke, Ruffels, Rose (Potter 45′), Newey, Mullins, Bevans (Connolly 77′), Hunt, Wroe, Constable, Kitson (Williams 58′), Smalley

Goliau: Constable 14’, Potter 88’

Cardiau Melyn: Newey 62’, Wroe 90’

.

Torf: 3,757