Michael Laudrup
Mae cyn-reolwr clwb pêl-droed Abertawe Michael Laudrup wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers cael ei ddiswyddo, gan ddweud nad ydy o hyd fawr callach pam y cafodd ei orfodi i adael ei swydd.
Wrth siarad mewn cynhadledd yn Llundain heddiw, fe ddywedodd Laudrup mai drwy e-bost y derbyniodd o’r newydd ei fod yn cael ei ddiswyddo – oriau ar ôl cyfarfod lle cafodd o ei ddiolch am ei waith fel rheolwr.
Dywedodd hefyd ei fod wedi gorfod disgwyl naw diwrnod cyn derbyn esboniad ar e-bost gan glwb Abertawe, a ddywedodd eu bod yn ei ddiswyddo am iddo dorri amodau ei gytundeb.
Ond nid yw’r cyn-reolwr, a fu gyda’r clwb am flwyddyn a hanner, yn siŵr sut yn union wnaeth o dorri ei gytundeb.
Ychwanegodd ei fod yn siomedig nad oedd wedi cael esboniad teg ynglŷn â’u penderfyniad.
Roedd hefyd yn mynnu y byddai wedi aros gyda’r clwb y tymor nesaf, er bod sïon ei fod am adael, ac y byddai wedi gwella safon y clwb.
Nid yw wedi derbyn ceisiadau eraill am swyddi yn y cyfamser.