Rhys Priestland
Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi bod y maswr Rhys Priestland wedi arwyddo cytundeb newydd a fydd yn ei weld yn aros gyda’r rhanbarth.
Roedd y chwaraewr 26 mlwydd oed wedi cael ei gysylltu gyda chlybiau yn Lloegr a Ffrainc ac roedd adroddiadau hefyd y byddai cytundeb canolog gydag Undeb Rygbi Cymru yn opsiwn iddo.
Ond mae’r Scarlets wedi cadarnhau bod Priestland, fydd yn chwarae i Gymru yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener wedi arwyddo cytundeb newydd gyda nhw.
Mae Rhys Priestland wedi ennill 27 o gapiau i Gymru ac roedd yn rhan o dîm Cymru enillodd y Gamp Lawn 2012.
Meddai Rhys Priestland: “Rwy’n hynod o falch o fod wedi sicrhau fy nghytundeb gyda’r Scarlets.
“Dyma ble wnes i ddatblygu fel chwaraewr rygbi ac rwyf wedi cael cefnogaeth yma ers i mi ddechrau chwarae wrth i hyfforddwyr da a chwaraewyr profiadol fy helpu yn fy ngyrfa.”
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby: “Mae Rhys wedi dod yn un o’n chwaraewyr mwyaf profiadol ac mae ganddo lawer i’w gyfrannu i’r rhanbarth – ar ac oddi ar y cae.
“Roedd yn bwysig i bob un ohonom i gadw Rhys a chwaraewyr eraill ym Mharc y Scarlets – bydd ein cefnogwyr yn falch iawn hefyd, gan ei fod yn chwaraewr lleol poblogaidd.
“Rydym yn falch iawn bod rhywun o’i allu a phrofiad a gydag angerdd gwirioneddol am y rhanbarth wedi ymrwymo i aros gyda ni.”