Stadiwm Dinas Caerdydd

Bydd y Super Cup yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf erioed eleni wrth i Stadiwm Dinas Caerdydd groesawu’r gystadleuaeth ym mis Awst.

Mae’r gêm yn cael ei drefnu gan UEFA rhwng enillwyr Cynghrair y Pencampwyr ac enillwyr Cynghrair Ewropa – gan olygu y gall Abertawe fod yn un o’r timau fydd yn chwarae yn yr ornest.

Mae’r Elyrch dal yng Nghwpan Ewropa ar hyn o bryd, ac yn wynebu Napoli yng nghymal cyntaf rownd yr 16 olaf nos Iau.

Deiliaid y gwpan ar hyn o bryd yw Bayern Munchen, a drechodd Chelsea mewn ciciau o’r smotyn ym Mhrag y llynedd – y tro cyntaf i’r gystadleuaeth yn ei ffurf bresennol gael ei gynnal y tu allan i Monaco.

Fe fydd y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn cael ei chwarae ar ddydd Mawrth 12 Awst 2014.

Wrth siarad yn y lansiad heddiw fe ddywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, ei fod yn gobeithio y byddai’r digwyddiad yn gyntaf o nifer allai gael eu denu i Gymru.

“Mae CBDC wrth ein bodd y bydd Caerdydd yn cynnal Super Cup UEFA eleni,” meddai Jonathan Ford. “Mae’r gêm fawreddog hon yn cynnwys y timau gorau yn Ewrop, enillwyr Cynghrair y Pencampwyr a Chynghrair Ewropa.

“Mae Caerdydd wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawr. Ond fe fydd hon yn wahanol. Hon fydd y gêm gyntaf i gael ei chynnal ar ran UEFA yn y brifddinas. Rydym yn siŵr nad hon fydd yr olaf chwaith.”

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed hefyd wedi bod yn rhan o ymdrechion i geisio denu ffeinal Cynghrair y Pencampwyr i Gaerdydd rywbryd yn y dyfodol, yn ogystal â chynnig y ddinas fel un o leoliadau Ewro 2020.