Gary Medel
Bydd chwaraewr canol cae Caerdydd Gary Medel allan am rai wythnosau ar ôl cael anaf i’w glun dros y penwythnos.

Postiodd Medel lun ar wefan gymdeithasol Instagram wrth gael sgan ar yr anaf, gan ychwanegu neges yn cadarnhau’r newyddion.

“Wel, dyma beth yw pêl-droed. Rhwyg, fe fyddaf allan am rai wythnosau. (Rwy’n gobeithio) gwella mor fuan â phosib,” meddai’r neges.

Cafodd Medel ei eilyddio ar yr egwyl yng ngholled Caerdydd i Wigan ar y penwythnos, wrth iddyn nhw fynd allan o Gwpan FA Lloegr.

Arwyddodd Medel o Sevilla yn Sbaen yn yr haf am ffi o £11m, ac mae’r gŵr o Chile wedi chwarae 26 gwaith dros yr Adar Gleision eisoes y tymor hwn.

Mae Caerdydd yn wynebu her fawr wrth geisio brwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair, gyda’r clwb yn 19fed yn y tabl â dim ond deuddeg gêm ar ôl.

Maen nhw dau bwynt oddi wrth y safleoedd saff, ac yn wynebu Hull gartref ddydd Sadwrn.