Roedd hi’n benwythnos siomedig i’r Cymry ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr wrth i’w timau i gyd golli.

Cafodd Neil Taylor, Ashley Richards ac Ashley Williams brynhawn siomedig ddydd Sul wrth i Abertawe golli 3-1 i Everton, gyda dau o’r amddiffynwyr ar fai am goliau yn yr ail hanner.

Fe aeth pas esgeulus Taylor tuag at ei olwr yn syth i draed ymosodwr Everton a sgoriodd i’w gwneud hi’n 2-1, cyn i Richards ildio cic o’r smotyn a arweiniodd at y drydedd gôl.

Ond roedd y ddau hefyd yn cynnig rhywfaint o fygythiad wrth ymosod i lawr yr asgell, gyda Taylor yn croesi’r bêl ar gyfer unig gôl y prynhawn i’r Elyrch.

Siomedig oedd dydd Sul Joe Allen hefyd, er iddo chwarae 90 munud i Lerpwl am y tro cyntaf yn 2014, wrth iddyn nhw golli 2-1 i Arsenal.

Ac ni ddaeth Declan John oddi ar y fainc wrth i Gaerdydd golli 2-1 i Wigan.

Yn La Liga chwaraeodd Gareth Bale ran yng ngôl gyntaf Real Madrid wrth iddyn nhw guro Granada’n gyfforddus o 3-0.

Ac fe chwaraeodd Adam Matthews gêm lawn arall wrth i Celtic drechu St Johnstone 3-0 yng Nghynghrair yr Alban.

Yn y Bencampwriaeth dim ond rhyw lond llaw o’r Cymry oedd yn chwarae oherwydd gemau’r gwpan.

Ac fe sicrhaodd Chris Gunter a Reading fuddugoliaeth bwysig tu hwnt dros QPR brynhawn Sul, canlyniad sy’n cau’r bwlch rhwng y ddau dîm i chwe phwynt yn safleoedd y gemau ail gyfle. Daeth Hal Robson-Kanu oddi ar y fainc am bum munud hefyd wrth iddo ddychwelyd o anaf.

Roedd y canlyniad hwnnw yn un ffafriol iawn i Burnley, ar ôl iddyn nhw gael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Bournemouth i aros yn ail yn y gynghrair.

Yn anffodus doedd Sam Vokes methu ailadrodd ei orchestion o ganol yr wythnos, pan sgoriodd unig gôl y gêm i gipio buddugoliaeth i Burnley yn erbyn Bolton.

Stori debyg oedd hi i Steve Morison, a rwydodd i Millwall nos Fawrth yn erbyn Yeovil cyn cael gêm dawelach yn erbyn Bolton ar y penwythnos, gyda’r sgôr yn 1-1 ddwywaith.

Roedd Jermaine Easter, David Cotterill a Shaun Macdonald ymysg y Cymry eraill a ymddangosodd yn y Bencampwriaeth.

Yng Nghynghrair Un rhwydodd ddau o Gymry Tranmere wrth iddyn nhw frwydro i gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Bristol City. Tarodd Jake Cassidy yn yr hanner cyntaf cyn i gôl wych Jason Koumas unioni’r sgôr yn hwyr.

Chwaraeodd Owain Fôn Williams i Tranmere hefyd, tra bod Sam Ricketts yn amddiffyn Wolves a gadwodd lechen lân mewn buddugoliaeth o 2-0 dros Notts County.

Seren yr wythnos: Sam Vokes – gôl bwysig arall ganol wythnos i gadw Burnley’n ail.

Siom yr wythnos: Neil Taylor – camgymeriad erchyll i roi gôl ar blât i Everton.