Jonathan de Guzman
Everton 3-1 Abertawe

Mae Abertawe allan o Gwpan FA Lloegr ar ôl colli 3-1 yn erbyn Everton yn rownd yr 16 olaf.

Dewisodd Garry Monk nifer o chwaraewyr ymylol carfan Abertawe ar gyfer y trip i Goodison Park, gyda’r Elyrch yn wynebu Napoli nes ymlaen yn yr wythnos.

Sgoriodd Lacina Traore gôl gynnar i Everton cyn i Jonathan de Guzman unioni’r sgôr ar ôl chwarter awr.

Ond fe arweiniodd camgymeriadau amddiffynnol at ddwy gôl arall i Everton yn yr ail hanner, gan olygu mai nhw yn hytrach nag Abertawe fydd yn wynebu Arsenal yn y rownd nesaf.

Ar ôl i Alvaro Vasquez fethu cyfle euraidd i Abertawe yn y munudau cyntaf cafodd yr Elyrch eu cosbi am beidio â chlirio cic rydd, Traore’n fflicio’r  bêl i’r rhwyd ar ôl pedair munud.

Ond o fewn deg munud roedd y sgôr yn gyfartal, Jonathan de Guzman yn sleifio i mewn i’r cwrt cosbi i benio croesiad Neil Taylor heibio i Joel Robles.

Roedd y ddau dîm yn flêr gyda meddiant ar adegau, gyda Traore, Steven Pienaar a Kevin Mirallas yn methu cyfleoedd i Everton cyn yr egwyl a Kyle Bartley’n gorfod gadael y maes gydag anaf.

A thoc wedi’r awr fe wnaeth Neil Taylor gamgymeriad erchyll wrth anelu pas wan yn ôl at y golwr Gerhard Tremmel, gydag eilydd Everton Steven Naismith yn cipio’r bêl cyn rhwydo ail gôl ei dîm.

A gydag ugain munud i fynd fe sicrhawyd y canlyniad, Leighton Baines yn rhwydo o’r smotyn ar ôl i Jazz Richards faglu Naismith.

.

Everton

Tîm: Robles, Coleman, Distin, Jagielka, Baines, Barry, McCarthy, Pienaar, Barkley (Osman 61’), Mirallas (Deulofeu 87’), Traore (Naismith 61’)

Goliau: Traore 4’, Naismith 64’, Baines 71’

Abertawe

Tîm: Tremmel, Richards, Taylor, Canas, Bartley (Williams 31’), Amat, de Guzman, Hernandez, Routledge (Dyer 45’), Lamah (Lita 69’), Vasquez

Gôl: de Guzman 15’

Cardiau Melyn: Amat, Lita