Sam Warburton o'r Gleision
Colli wnaeth y Gleision heno yng nghystadleuaeth y RaboDirect Pro12 gyda’r tîm o’r Alban yn cipio’r fuddugoliaeth gyda chais ym munudau ola’r gêm.
Roedd y Gleision ar y blaen ar hanner amser o 10 pwynt i saith ond yna yn yr ail hanner, roedd Glasgow yn chwarae rygbi mwy cyffrous ac yn cymryd ambell i risg.
Sgoriodd y Gleision dau gais ond doedd hynny ddim yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth iddyn nhw.
Robin Copeland a Lewis Jones sgoriodd y ddau gais i’r Gleision.
Mi wnaeth Sam Warburton a Gethin Jenkins chwarae am bron i awr yr un sy’n newyddion da i’r tim cenedlaethol wrth iddyn nhw edrych ymlaen at y frwydr yn erbyn Ffrainc nos Wener nesaf.