Caerdydd 0–0 Aston Villa

Mae Caerdydd yn aros yn safleoedd y gwymp yn yr Uwch Gynghrair yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Aston Villa yn Stadiwm y Ddinas nos Fawrth.

Yr ymwelwyr a ddechreuodd y gêm orau ond fe gryfhaodd Caerdydd wrth i’r hanner cyntaf fynd yn ei flaen. Fe darodd Fraizer Campbell a Craig Noone y gwaith pren a gallai Kenwyne Jones fod yn hawdd wedi cael cic o’r smotyn, ond aros yn ddi sgôr wnaeth hi tan yr egwyl.

Villa oedd y tîm gorau yn yr ail gyfnod a chafodd Leandro Bacuna gyfle da i’w rhoi ar y blaen ar yr awr ond tynnodd ei ergyd ar draws ceg y gôl a heibio’r postyn.

Jones a gafodd y cyfle gorau yn y pen arall ond peniodd yn syth at Brad Guzan yn y gôl cyn i Gabriel Agbonlahor wastraffu cyfle da iawn i’r ymwelwyr wyth munud o ddiwedd y naw deg.

Ond daeth cyfle gorau’r gêm i eilydd Aston Villa, Andreas Weimann, yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm ac roedd angen arbediad gwirioneddol wych gan David Marshall i atal y gŵr o Awstria.

Mae Caerdydd yn aros yn ail o waelod y tabl er gwaethaf y pwynt ac fe all yr Adar Gleision fod yn ôl ar waelod yr Uwch Gynghrair o fewn 24 awr, yn dibynnu ar ganlyniad Fulham yn erbyn Lerpwl nos yfory.

.

Caerydd

Tîm: Marshall, Théophile-Catherine, John, Medel, Caulker, Turner, Noone, Mutch (Wolff Eikrem 32′), Jones, Campbell, Zaha (Daehli 61′)

.

Aston Villa

Tîm: Guzan, Bacuna, Bertrand, Westwood, Vlaar, Baker, Albrighton, Delph, Agbonlahor, Benteke, Bennett (Weimann 70′)

.

Torf: 27,597