Mae amddiffynnwr Caerdydd Steven Caulker wedi dweud fod yn rhaid i Gaerdydd anelu i ennill pob un o’u gemau cartref am weddill y tymor os ydyn nhw am aros yn y Gynghrair.
Roedd yn siarad wrth i’r Adar Gleision baratoi i groesawu Aston Villa i Stadiwm Dinas Caerdydd heno, wrth iddyn nhw geisio dod dros y siom o golli’r ddarbi i Abertawe ar y penwythnos.
Arwyddodd Caulker i Gaerdydd yn yr haf o Tottenham, ar ôl chwarae am dymor i’r Elyrch – gan sgorio’r gôl fuddugol i ennill yr ornest rhwng y ddau dîm i dde Cymru yn gynharach y tymor hwn.
Ac fe ddywedodd y byddai Caerdydd – sy’n 19fed yn y Gynghrair ar hyn o bryd – yn saff os ydyn nhw’n llwyddo i gael canlyniadau positif yn eu gemau cartref sy’n weddill.
“Hoffwn i erfyn ar y cefnogwyr i barhau i fod yn gefn i ni a gwneud ein stadiwm ni’n un anodd i ymwelwyr,” meddai Caulker yn y gynhadledd cyn y gêm.
“Os allwn ni ennill y saith gêm gartref sy’n weddill fe wnawn ni aros yn yr Uwch Gynghrair. Roedd dydd Sadwrn yn annerbyniol a does dim esgusodion.
“Rydym ni wedi bod yn siarad mwy am ddechrau ar y droed flaen a dyna wnawn ni geisio gwneud nos Fawrth. Fe wnaeth y rheolwr hi’n glir pan gafodd y swydd ei fod eisiau chwarae pêl-droed ymosodol a fesul ychydig rydym ni wedi gwneud hynny.”
11 tîm mewn trwbl?
Dim ond saith pwynt sy’n gwahanu’r tîm yn y degfed safle (Abertawe) a gwaelod y gynghrair (Fulham) ar hyn o bryd, gyda phob tîm yn ail hanner y tabl yn dal i fod mewn trwbl.
Mae Aston Villa’n 12fed, chwe phwynt o flaen Caerdydd, ac fe gyfaddefodd Caulker fod pob gêm am fod yn frwydr o hyn ymlaen.
“Mae’n dynn iawn yn y gwaelod,” meddai. “Rydym ni mewn brwydr ac yn edrych i gael tri phwynt yn erbyn Aston Villa. Mae’n rhaid i ni adfer yr hyder yn y garfan gafodd glec ddydd Sadwrn.
“Mae Villa’n dîm ymosodol da ac fe fydd yn rhaid i ni fod yno. Mae ganddyn nhw nifer o chwaraewyr da fel Benteke.
“Os edrychwch chi roedd [Crystal] Palace a Sunderland ar y gwaelodion ychydig wythnosau yn ôl ond maen nhw wedi rhoi rhediad da at ei gilydd a chael eu hun allan felly rydym ni am wneud yr un peth.”
“Ymateb da”
Cytunodd rheolwr Caerdydd Ole Gunnar Solskjaer fod angen tua “17 neu 18” pwynt arall ar Gaerdydd i fod yn saff, gan ddweud bod angen i’r tîm wella’n amddiffynnol os oedden nhw am gael canlyniadau.
“Rydym ni’n ildio gormod o goliau,” cyfaddefodd Solskjaer. “Allwn ni ddim ildio dwy gôl pob gêm a disgwyl sgorio tair, felly mae’n rhywbeth sy’n rhaid i ni drwsio.
“Roedd Abertawe’n gam yn ôl yn nhermau canlyniad a pherfformiad, ond mae’n rhaid i ni ddod yn ôl a dechrau eto.
“Yn amlwg mae pwysau, ond mae’r bechgyn yn ddigon abl i ddelio â hynny. Maen nhw wedi ymateb yn dda i ddydd Sadwrn yn yr ymarfer. Mae’r agwedd yn dda, mae’r egni yn yr ymarfer yn bositif.”
Man anafiadau
Cadarnhaodd Solskjaer fod yr amddiffynnwr Craig Noone yn dioddef o anaf all beri problem cyn y gêm ond bod disgwyl iddo chwarae, a bod yr amddiffynnwr Fabio dal angen mwy o gemau er mwyn cyrraedd ei berfformiadau gorau.
Mae disgwyl i Kevin Theophile-Catherine fod ar gael hefyd er gwaethaf man anaf, tra bod Andrew Taylor yn dal allan ag anaf i’w goes.
Dim ond yr amddiffynwyr Ron Vlaar a Ryan Bertrand sy’n amheuon i Villa ar gyfer gêm heno.
Mae Caerdydd hefyd yn pendroni apelio yn erbyn y cyhuddiad o drais sydd wedi’i ddwyn yn erbyn Craig Bellamy am wrthdaro gyda Jonathan de Guzman o Abertawe ar y penwythnos.
Mae gan Bellamy tan 6yh heddiw i ymateb i’r cyhuddiad, gyda’r ymosodwr yn cael ei wahardd am dair gêm yn dechrau heno os nad yw’n gwrthwynebu.
Dywedodd Solskjaer hefyd ei fod yn ystyried cynnwys yr amddiffynnwr newydd Juan Cala yn ei garfan ar gyfer y gêm heno.
“Mae Juan Cala’n arweinydd, mae’n gallu rhoi trefn ar y bobl o’i gwmpas ac mae’n gymeriad mawr yn y grŵp,” meddai Solskjaer. “Felly mae’n sicr yn fy meddwl ar gyfer y gêm.”