Mae Ashley Beck a Dan Baker wedi cael eu galw mewn i ymarfer gyda charfan Cymru’r wythnos hon wrth iddyn nhw ddechrau paratoi ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc.

Mewn pythefnos fe fydd Cymru’n wynebu’r Ffrancwyr yn Stadiwm y Mileniwm, ac felly maen nhw wedi penderfynu rhyddhau 10 o’r chwaraewyr gael chwarae i’w rhanbarthau’r penwythnos hwn.

Yn ogystal â’r Gweilch Beck a Baker bydd capten Cymru Sam Warburton, y prop Gethin Jenkins a’r maswr Dan Biggar ar gael i’w clybiau wrth i’r Chwe Gwlad gymryd saib am wythnos.

Mae pump arall – Samson Lee, Emyr Phillips, Ryan Bevington, James King a Rhys Webb – hefyd wedi cael caniatâd i ymuno a’u clybiau am y penwythnos.

Enillodd Beck ei gap diwethaf yn erbyn Tonga yn yr hydref, gyda Baker yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ar eu taith i Siapan yn haf y llynedd.

Mae’r Undeb Rygbi hefyd wedi cadarnhau bod Scott Williams yn parhau i gael asesiadau meddygol ar ôl iddo ddod oddi ar y cae yn y golled i Iwerddon gydag anaf i’w ysgwydd.