Craig Bellamy
Mae gan Craig Bellamy tan 6yh heddiw i ymateb i gyhuddiad o drais gan FA Lloegr ar ôl i gamerâu ei ddangos yn gwrthdaro ag un o chwaraewyr Abertawe dros y penwythnos.

Yn ystod y gêm yn Stadiwm Liberty, pan gollodd Caerdydd 3-0, mae’n ymddangos i Bellamy daro chwaraewr canol cae Abertawe Jonathan de Guzman gyda’i fraich wrth redeg heibio iddo.

Ni welodd y dyfarnwr Andre Marriner y digwyddiad, gan olygu bod hawl gan yr FA i ymchwilio i’r mater ymhellach er mwyn penderfynu a oedd wedi gwneud hynny’n fwriadol.

Maen nhw wedi penderfynu ei gyhuddo o drais yn dilyn y digwyddiad, ac os gaiff Bellamy ei ganfod yn euog fe fydd yn cael ei wahardd am dair gêm nesaf Caerdydd.

Mewn datganiad dywedodd yr FA: “Mae Craig Bellamy o Gaerdydd wedi’i gyhuddo gan yr FA o ymddygiad treisgar yn dilyn digwyddiad na chafodd ei weld gan y dyfarnwyr ond oedd i’w weld ar fideo.”

Os bydd y Cymro’n penderfynu derbyn y cyhuddiad fe fydd yn methu dwy gêm gartref nesaf Caerdydd yn y gynghrair, yn erbyn Aston Villa a Hull, yn ogystal â’r gêm yng Nghwpan yr FA yn erbyn Wigan ar y penwythnos.

Ar hyn o bryd mae Caerdydd yn 19fed yn y tabl, tri phwynt i ffwrdd o’r safleoedd saff.

Y rheolwyr yn anghytuno

Roedd rheolwr Caerdydd Ole Gunnar Solskjaer eisoes wedi dweud cyn i’r FA ddwyn y cyhuddiad yn erbyn Bellamy nad oedd yn credu fod y digwyddiad werth y sylw, a bod de Guzman wedi gorymateb.

“I mi, roedd hi’n ddim byd,” meddai Solskjaer. “Fe allwch chi edrych ar [Angel] Rangel pan mae’n cicio [Wilfried] Zaha yn yr hanner cyntaf. Does dim sôn am hynny.

“Fe welodd y dyfarnwr y digwyddiad [rhwng Bellamy a de Guzman], rhedeg i mewn i’w gilydd wnaethon nhw. Rydw i wedi siarad gyda Craig am y peth, does dim problem.”

Anghytuno wnaeth prif hyfforddwr Abertawe Garry Monk gyda’r asesiad hwnnw, ond dywedodd nad oedd yn poeni am ddyfarniad Bellamy.

“Nid ein problem ni yw hi. Welais i mo’r digwyddiad ar y pryd,” meddai Monk. “Os oes unrhyw un eisiau mynd a’r peth yn bellach mae hynny lan iddyn nhw.

“Dydw i ddim yn credu y gwnaeth Jonathan ormod o’r peth. Cafodd ei daro ar gefn ei ben. Wnaeth e ddim cwyno am y peth i mi o gwbl.”