Mae aelodau blaenllaw FIFA wedi dweud na fydd Cwpan y Byd Qatar yn 2022 bellach yn cael ei chwarae yn yr haf.

Dywedodd y llywydd Sepp Blatter y byddai’r bencampwriaeth nawr yn digwydd ym mis Tachwedd neu Ragfyr o’r flwyddyn honno, gyda’r ysgrifennydd cyffredinol Jerome Valcke yn awgrymu dyddiadau rhwng 15 Tachwedd a 15 Ionawr.

Mae’r dyddiadau wedi cael eu trafod yn gyson ers y penderfyniad yn 2010 i gynnal Cwpan y Byd yn Qatar, oherwydd tymheredd crasboeth  y wlad yn y Dwyrain Canol yn ystod misoedd yr haf.

Mae nifer wedi codi pryderon y bydd y gwres llethol yn beryglus i chwaraewyr a chefnogwyr – ond mae trefnwyr y twrnament wedi dweud eu bod nhw wastad wedi bod yn barod i’w gynnal yn haf 2022.

Ac mae’n ymddangos fod y pryderon hynny nawr wedi ysgogi tro ar fyd i’r corff sydd yn rheoli’r gêm ar draws y byd.

“Ni fydd dyddiadau Cwpan y Byd [yn Qatar] ym mis Mehefin-Gorffenaf,” meddai Valcke wrth Radio France.

“Os ydych chi’n chwarae rhwng 15 Tachwedd a diwedd Rhagfyr dyna yw’r adeg pan mae’r tywydd ar ei orau, pan allwch chi chwarae mewn tymheredd tebyg i wanwyn cynnes yn Ewrop, cyfartaledd o 25 gradd.

“Dyna fyddai’n berffaith i chwarae pêl-droed.”

Mae Blatter wedi dweud y bydd FIFA yn cadarnhau union ddyddiadau Cwpan y Byd ym mis Rhagfyr 2014.

Fodd bynnag, byddai cynnal y bencampwriaeth yn y gaeaf dal yn achosi problemau, gan amharu ar dymhorau clybiau ar draws y byd, yn ogystal â Chwpan Cenhedloedd Affrica sydd i fod i gymryd lle yn Ionawr 2023.

Mae Awstralia, un o’r gwledydd a fethodd yn eu hymgais i gynnal Cwpan y Byd 2022, hefyd wedi dweud y bydden nhw’n gofyn am iawndal gan FIFA os bydd y dyddiadau’n symud oherwydd bod criteria’r cais gwreiddiol yn mynnu fod yn rhaid ei gynnal yn yr haf.