Burton 1–0 Casnewydd

Colli fu hanes Casnewydd yn eu gêm Ail Adran yn erbyn Burton brynhawn Sul wrth i’r tîm cartref rwydo unig gôl y gêm ddeuddeg munud o’r diwedd yn Stadiwm Pirelli.

Dechreuodd Burton y prynhawn bwynt o flaen Casnewydd yn y tabl felly byddai gêm gyfartal wedi bod yn ganlyniad digon derbyniol i dîm Justin Edinburgh. Ac roedd hynny’n ymddangos yn debygol gyda chyn lleied â chwarter awr i fynd.

Ond cododd Billy Kee i benio croesiad Matthew Palmer heibio i Lenny Pidgeley i ennill y gêm i’r tîm cartref yn hwyr.

Ychydig iawn o gyfleoedd a gafodd yr ymwelwyr o dde Cymru trwy gydol y gêm mewn gwirionedd felly dichon mai hwn oedd y canlyniad teg.

Mae’r Alltudion o ganlyniad yn disgyn dau le yn y tabl ond yn aros yn y safleoedd ail gyfle – maent yn seithfed, bedwar pwynt o’r brig .

.

Burton

Tîm: Lyness, Edwards, McCrory, Palmer, Sharps, Cansdell-Sherriff, MacDonald (Hussey 83′), Weir (Bell 67′), Kee, McGurk, Phillips

Gôl: Kee 79’

Cerdyn Melyn: Cansdell-Sherriff 56’

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Pipe, Jackson, Sandell, Worley (Yakubu 62′), Oshilaja, Flynn (Naylor 68′), Chapman, Jolley, Washington, Willmott (Burge 69′)

Cerdyn Melyn: Chapman 78’

.

Torf: 2,692