Caerdydd 2–2 Sunderland

Dechreuodd bywyd heb Malky Mackay gyda gêm gyfartal i Gaerdydd wrth i Sunderland gipio pwynt yn Stadiwm y Ddinas gyda dwy gôl hwyr.

David Kerslake  oedd yng nghofal y tîm nos Sadwrn ac roedd hi’n ymddangos eu bod wedi gwneud digon i sicrhau buddugoliaeth gyda goliau Jordan Mutch a Fraizer Campbell, ond tarodd Sunderland yn ôl i gipio gêm gyfartal gyda dwy gôl hwyr.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Caerdydd ar dân a bu bron i Steven Caulker a Mutch eu penio ar y blaen yn y pum munud cyntaf.

Derbyniodd Mutch gerdyn melyn am blymio hefyd, a hynny i gyd cyn agor y sgorio wedi chwe munud. Derbyniodd y bêl yn dilyn gwaith da gan Campbell a gwyrodd ei ergyd o ochr y cwrt cosbi heibio i Victor Mannone yn y gôl.

Gwnaeth yr Eidalwr sawl arbediad da i gadw Sunderland yn y gêm wedi hynny wrth i Gaerdydd reoli’r hanner awr cyntaf. Arbedodd gynnigion Kim Bo-Kyung, Peter Wittingham a Craig Noone.

Roedd Sunderland yn hynod siomedig yn yr hanner cyntaf er iddynt ddechrau bygwth mwy yn chwarter awr olaf. Bu rhaid i David Marshall fod ar ei orau i atal Fabio Borini ar ddau achlysur, ac er iddo wyro ergyd Ki Sung-Yeung yn syth i lwybr Jozy Altidore, methodd yr Americanwr fanteisio.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail gyfnod yn debyg iawn – gyda Chaerdydd yn llwyr reoli ac er i Campbell fethu un cyfle da yn y cwrt chwech ar ddechrau’r hanner, fe roddodd Caerdydd ym mhellach ar y blaen gyda gôl haeddianol toc cyn yr awr. Rhwydodd y blaenwr yn erbyn ei gyn glwb yn dilyn rhediad pwrpasol a chroesiad da gan Mutch.

Daeth Lee Cattermole yn agos yn y pen arall ond roedd Caerdydd yn edrych yn gyfforddus ar y cyfan.

Dylai Ben Turner fod wedi penio trydedd i’r tîm cartref ddeunaw munud o’r diwedd a bu rhaid i’w dîm dalu’n ddrud wrth i Sunderland wella yn y munudau olaf.

Rhwydodd Steven Fletcher saith munud o’r diwedd yn dilyn gwaith da  ar y chwith gan Emanuele Giaccherini, a chafodd yr Albanwr gyfle da iawn i unioni hefyd cyn cael ei atal gan ei gydwladwr, Marshall.

Gwnaeth Marshall yn dda i arbed ergyd galed Valentin Roberge hefyd ond allai wneud dim pan wyrodd ergyd Jack Colback drosto i gornel uchaf y rhwyd yn y chweched munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Tor calon i Gaerdydd felly ac mae’r canlyniad yn eu cadw yn yr unfed safle ar bymtheg yn nhabl yr Uwch Gynghrair. Byddai buddugoliaeth wedi eu codi i’r pedwerydd safle ar ddeg.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Théophile-Catherine, John, Mutch, Caulker, Turner, Noone (Cowie 72′), Medel, Campbell (Cornelius 82′), Kim (Gunnarsson 79′), Whittingham

Goliau: Mutch 6’, Campbell 58’

Cardiau Melyn: Mutch 1’, Kim 58’, Campbell 68’

.

Sunderland

Tîm: Mannone, Bardsley, Dossena, Cattermole (Colback 74′), Diakité, Roberge, Giaccherini, Larsson (Gardner 74′), Altidore, Ki, Borini (Fletcher 45′)

Goliau: Fletcher 83’, Colback 90’

Cardiau Melyn: Cattermole 19’, Bardsley 60’

.

Torf: 27,247