Hyde 2–5 Wrecsam
Sgoriodd Wrecsam bum gôl wrth guro’r tîm sydd ar waelod Uwch Gynghrair Skrill, Hyde, oddi cartref ar Ewen Fields brynhawn Sadwrn.
Roedd y Dreigiau ar ei hôl hi am gyfnod byr yn yr hanner cyntaf ond roedd hatric Robert Ogleby ynghyd â gôl yr un i Joe Clarke a David Artell yn hen ddigon i dîm Andy Morrell yn y diwedd.
Rhoddodd Ogleby Wrecsam ar y blaen wedi deuddeg munud wrth rwydo o ongl dynn o groesiad David Artell.
Tarodd Hyde yn ôl gyda dwy gôl mewn pum munud i fynd ar y blaen, y gyntaf i Connor Hughes wedi 28 munud a’r llall i Scott Spencer wedi 33 munud.
Ond roedd Wrecsam yn gyfartal ar yr egwyl diolch i Ogleby eto. Sgoriodd y blaenwr ei ail ef ac ail ei dîm gyda pheniad o groesiad Clarke.
Roedd Wrecsam ar y blaen toc wedi’r awr gyda Clarke ei hunan yn sgorio’r tro hwn yn dilyn gwaith creu Adrian Cieslewicz.
Sicrhawyd y tri phwynt ugain munud o’r diwedd pan gwblhaodd Ogleby ei hatric gydag ergyd dda i’r gornel isaf, a rhoddodd Artell yr eisin ar y gacen gyda’r bumed gôl funud o’r diwedd.
Mae Wrecsam yn aros yn bymthegfed yn nhabl y Gyngres er gwaethaf y fuddugoliaeth gyfforddus.
.
Hyde
Tîm: Vigouroux, Brizell, Day (Carlton 71′), O’Connor, Blakeman, Tomsett (Devaney 76′), Brown (Thurston 61′), Hughes, O’Donnell, Almond, Spencer
Goliau: Hughes 28’, Spencer 33’
Cerdyn Melyn: Thurston 84’
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Artell, Clowes, Hunt, Evans, Harris, Clarke, Anyinsah (Cieslewicz 62′), Carrington, Ogleby (Bailey-Jones 82′), Bishop
Goliau: Ogleby 12’, 39’, 71’, Clarke 63’, Artell 89’
Cerdyn Melyn: Evans 53’
.
Torf: 952