Aston Villa 1–1 Abertawe

Sicrhaodd gôl Roland Lamah bwynt i Abertawe ar Barc Villa yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn.

Roedd Gabriel Agbonlahor wedi rhoi mantais gynnar i Aston Villa ond achubodd Lamah gêm gyfartal i’r Elyrch gyda gôl ddeg munud cyn yr egwyl.

Rhoddodd gôl daclus Agbonlahor y tîm cartref ar blaen wedi dim ond saith munud ond llwyr reolodd yr ymwelwyr o dde Cymru’r gêm wedi hynny.

Roeddynt yn llawn haeddu unioni felly ddeg munud cyn yr egwyl pan beniodd Lamah groesiad Pablo Hernandez i gefn y rhwyd.

Abertawe a gafodd y rhan helaeth o’r meddiant yn yr ail gyfnod hefyd ond prin iawn oedd eu cyfleoedd oni bai am un gic rydd gan Jonathan De Guzman.

Gorffen yn gyfartal a wnaeth hi felly ac mae’r pwynt hwnnw’n ddigon i gadw’r Elyrch yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Aston Villa

Tîm: Guzan, Lowton, Luna, Westwood, Clark, Baker, Bacuna (El Ahmadi 70′), Delph, Agbonlahor, Weimann (Albrighton 79′), Tonev (Kozák 61′)

Gôl: Agbonlahor 7’

Cardiau Melyn: Bacuna 69’, Clark 86’, El Ahmadi 90’

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Tiendalli (Rangel 55′), Davies, Cañas, Chico, Williams, Hernández, De Guzmán, Bony (Alvaro 84′), Shelvey, Lamah (Pozuelo 68′)

Gôl: Lamah 36’

Cardiau Melyn: Lamah 37’, Rangel 77’

.

Torf: 37,028