Malky Mackay - llai o bwysau?
Caerdydd 1 West Bromwich Albion 0
Fe lwyddodd Caerdydd i ennill gêm allweddol yn erbyn West Bromwich Albion a chodi ychydig o’r pwysau ar y rheolwr Malky Mackay.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn codi uwchben y Baggies yn yr Uwch Gynghrair ac yn lledu’r bwlch rhyngddyn nhw a’r clybiau ar y gwaelod.
Gôl ar ôl 65 munud a setlodd bethau a honno’n dod o ben un o’r chwaraewyr lleia’ ar y cae, Peter Whittingham.
Roedd y croesiad wedi dod gan Craig Noone, un o sêr y gêm, ond fe fu rhaid i’r golwr, David Marshall, wneud un arbediad ardderchog hefyd yn yr ail hanner.
Timau ymosodol
Roedd y ddau reolwr wedi dewis timau ymosodol ac fe ddechreuodd Caerdydd yn dda gyda golwr Cymru, Boaz Myhill, yn gorfod gweithio’n galed rhwng y pyst i West Brom.
Ar adegau eraill, fe ddaeth Caerdydd dan bwysau mawr ond fe lwyddon nhw i sefyll yn gadarn.
Cyn y gêm, roedd dyfalu y gallai Malky Mackay fod mewn peryg o’r sac ar ôl i’r berthynas ddirywio rhyngddo ef a pherchennog Caerdydd, Vincent Tan.
Dim ond yr ail fuddugoliaeth oedd hon i Gaerdydd mewn naw gêm.