Casnewydd 3–2 Chesterfield
Cafodd Casnewydd fuddugoliaeth dda ar Rodney Parade brynhawn Sul yn erbyn y tîm sydd yn ail yn yr Ail Adran, Chesterfield.
Rhoddodd goliau Danny Crow, Adam Chapman ac Andy Sandell sylfaen da i’r fuddugoliaeth ac er i ail gôl Chesterfield yn hwyr yn y gêm achosi diweddglo nerfus, fe ddaliodd Casnewydd eu gafael ar y tri phwynt.
Peniodd Crow y tîm cartref ar y blaen o groesiad Robbie Willmott wedi dim ond pum munud ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.
Unionodd Jimmy Ryan i’r ymwelwyr toc wedi’r awr yn dilyn camgymeriad gan Lenny Pidgeley yn y gôl i Gasnewydd.
Daeth eiliad dyngedfenol y gêm chwarter awr o’r diwedd pan droseddodd Liam Cooper yn erbyn Conor Washington gyda’r blaenwr yn glir ar y gôl. Anfonwyd Cooper o’r cae ac adferodd Chapman fantais Casnewydd o’r smotyn.
Ychwanegodd Andy Sandell drydedd i’r Cymry dri munud o’r diwedd a daliodd tîm Justin Edinburgh eu gafael ar y fuddugoliaeth er gwaethaf gôl hwyr Mark Richard i’r ymwelwyr.
Mae’r canlyniad yn codi Casnewydd i’r wythfed safle, dri phwynt yn unig o frig tabl yr Ail Adran.
.
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, Jackson, Hughes, Naylor (Flynn 89′), Worley, Oshilaja, Willmott, Chapman, Jolley (Sandell 81′), Crow (Minshull 58′), Washington
Goliau: Crow 6’, Chapman [c.o.s.] 75’, Sandell 87’
Cerdyn Melyn: Jolley 27’
.
Chesterfield
Tîm: Lee, Ryan, O’Shea (Doyle 79′), Evatt, Cooper, Hird, Banks (Richards 70′), Talbot, Gnanduillet, Roberts (McSheffrey 81′), McFadzean
Goliau: Ryan 62’, Richards 90’
Cerdyn Melyn: Banks 68’
Cerdyn Coch: Cooper 74’
.
Torf: 3,378