Man City 3–0 Abertawe


Sgoriodd Man City dair gôl mewn buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Abertawe yn Stadiwm Etihad brynhawn Sul.

Rhoddodd Alvaro Negredo fantais gynnar i’r tîm cartref cyn i Samir Nasri sicrhau’r fuddugoliaeth gyda dwy gôl yn yr ail hanner.

Agorodd Negredo’r sgorio wedi dim ond wyth munud gyda chic rydd wych yn dilyn trosedd José Cañas.

Ond er gwaethaf gôl gynnar y tîm cartref, Abertawe oedd tîm gorau’r hanner cyntaf ac roeddynt yn anffodus i beidio unioni. Gwnaeth Costel Pantilimon arbediad da i atal Jonjo Shelvey ac anelodd Jonathan de Guzman gyfle da dros y trawst.

Roedd Man City yn well wedi’r egwyl ac roedd hi’n fuddugoliaeth gymharol gyfforddus yn y diwedd diolch i ddwy gôl Nasri. Daeth y gyntaf ar ddiwedd rhediad unigol da yn dilyn pas Yaya Toure a’r ail o groesiad Pablo Zabaleta.

Mae’r canlyniad yn codi Man City i’r trydydd safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair tra mae Abertawe yn llithro i’r trydydd safle ar ddeg.

.

Man City

Tîm: Pantilimon, Zabaleta, Clichy, Yaya Touré, Demichelis, Lescott, Jesús Navas (Kolarov 76′), Fernandinho, Negredo (Milner 63′), Aguero (Dzeko 79′), Nasri

Goliau: Negredo 8’, Nasri 58’, 77’

Cerdyn Melyn: Aguero 48’

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Tiendalli, Davies, Cañas, Chico, Williams, Pozuelo (Dyer 67′), De Guzmán, Alvaro, Shelvey, Hernández (Routledge 62′)