Caerdydd 2–2 Man U

Cipiodd Kim Bo-Kyung bwynt i Gaerdydd yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sul gyda gôl hwyr yn erbyn y pencampwyr, Man U.

Dylai Wayne Rooney fod wedi cael ei anfon o’r cae i’r ymwelwyr yn y munudau cyntaf ond arhosodd ar y cae gan sgorio i roi ei dîm ar y blaen. Unionodd Frazier Campbell cyn i Patrice Evra adfer mantais Man U eiliadau cyn yr egwyl. Ond roedd Caerdydd yn haeddu pwynt o leiaf a dyna’n union a gawsant diolch i beniad hwyr yr eilydd, Kim.

Hanner Cyntaf

Dim ond saith munud oedd wedi mynd pan gafodd Rooney ddihangfa diolch i benderfyniad gwael iawn gan y dyfarnwr, Neil Swarbrick. Ciciodd y blaenwr Jordan Mutch er nad oedd yn agos at y bêl ond cerdyn melyn yn unig a dderbyniodd.

Ac i wneud pethau’n waeth, pwy sgoriodd gôl agoriadol yr ymwelwyr wedi chwarter awr ond Ronney. Gwyrodd ei ergyd heibio i David Marshall yn y gôl yn dilyn camgymeriad amddiffynnol gwael gan Ben Turner.

Fe wnaeth Marshall atal Marouane Fellaini rhag dyblu’r fantais yn fuan wedyn ac roedd Caerdydd yn gyfartal toc wedi hanner awr o chwarae. Bwydodd Mutch bas dreiddgar i lwybr Campbell a rhwydodd yntau yn erbyn ei gyn glwb.

Roedd hi’n ymddangos mai felly y byddai’r hanner yn gorffen ond manteisiodd Evra ar fwy o amddiffyn gwan i benio cic gornel Ronney i gefn y rhwyd eiliadau cyn yr egwyl. Y gŵr a ddylai fod wedi cael cawod gynnar yn sgorio un ac yn creu un felly.

Ail Hanner

Gwnaeth Marshall yn dda i gadw Caerdydd yn y gêm yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda dau arbediad da i atal dau beniad gan Fellaini a Chris Smalling.

Yn y pen arall daeth Campbell o fewn trwch postyn i unioni’r sgôr am yr eildro ar ôl codi’r bêl yn gelfydd dros De Gea yn y gôl.

Daeth cyfle da i eilydd Man U, Danny Welbeck wedi hynny ond tarodd ei ergyd ym mhell dros y trawst.

Gorffennodd yr Adar Gleision y gêm yn gryf ac roeddynt yn llawn haeddu pwynt. Bu rhaid aros tan yr amser a ganiateir am anafiadau i sicrhau’r pwynt hwnnw – dyna pryd y peniodd yr eilydd, Kim, gic rydd Peter Wittingham i gefn y rhwyd i anfon y cefnogwyr cartref adref yn hapus.

Roedd digon o amser ar ôl wedi hynny i Ronney rwydo trydedd ond gwastraffodd gyfle euraidd trwy geisio pasio yn lle ergydio.

Ymateb

Rheolwr Caerdydd, Malky Mackay:

“ Dwi’n meddwl i ni chwarae’n dda iawn heddiw. O ran cyfleoedd, fe wnaethom ni greu dipyn, fe wnaethom ni basio’r bêl yn dda a hwn oedd ein perfformiad hanner cyntaf gorau ni’r tymor hwn.”

“Roeddem yn wynebu tîm da iawn ym Manceinion Unedig ond fe ddangosom ni hyder i bwyso yn galed ac yn uchel yn eu herbyn, yr hyder hwnnw yw’r peth sy’n rhoi’r mwyaf o foddhad i mi ar hyn o bryd.”

Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn y pymthegfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Théophile-Catherine, Taylor, Medel, Caulker, Turner, Cowie, Whittingham, Campbell (Cornelius 84′), Mutch (Kim 77′), Odemwingie (Noone 65′)

Goliau: Campbell 33’, Kim 90’

Cardiau Melyn: Caulker 51’, Whittingham 54’, Kim 90’, Théophile-Catherine 90’

.

Man U

Tîm: De Gea, Smalling, Evra, Cleverley, Ferdinand, Evans, Valencia, Fellaini, Hernández (Giggs 73′), Rooney, Januzaj (Welbeck 68′)

Goliau: Rooney 15’, Evra 45’

Cardiau Melyn: Rooney 8’, Cleverley 86’

.

Torf: 28,016